Mae AVANC, sef Ensemble Werin Ieuenctid Trac Cymru, wedi bod yn swyno Glasgow am y tro cyntaf dros y penwythnos, a hynny’n dynn ar sodlau ryddhau eu sengl newydd ddydd Gwener diwethaf.
‘Cân yr Ysbrydion’ ydy enw’r trac newydd gan Avanc sydd allan ers 4 Chwefror ar label Trac Cymru.
Ac ar ôl bron i ddwy flynedd dan glo heb gyfle i berfformio’n fyw, roedd yr Ensemble Werin yn ôl ar lwyfan y diwrnod canlynol ar 5 Chwefror yng ngŵyl amlwg Celtic Connections.
Dyma un o wyliau cerddoriaeth traddodiadol mwyaf mawreddog y byd a gynhelir yr adeg yma bob blwyddyn. Mae’n gwahodd rhai o enwau mwya’r sîn ryngwladol mewn cerddoriaeth werin, traddodiadol a byd, yn ogystal ag ambell i artist roc, jazz a phop, i greu corwynt o gigs drwy’r ddinas sy’n cyrraedd 300 o ddigwyddiadau mewn 61 lleoliad gwahanol, o flaen dros 130,000 o ffans angerddol.
Mae rhaglenni diweddar wedi cynnwys enwau fel Sinead O’Connor, Snow Patrol ac Alison Krauss.
Creu naws newydd i gân draddodiadol
Eleni roedd AVANC yno yng nghwmni cewri megis athrylith y sitar Anoushka Shankar a Cherddorfa Frenhinol Genedlaethol yr Alban. A hwythau yno ar benwythnos Dydd Miwsig Cymru, penderfynodd yr Ensemble ryddhau sengl newydd y diwrnod cyn camu i’r llwyfan eu hunain.
Er gwaethaf holl rhwystredigaethau’r pandemig, cafwyd blwyddyn ffrwythlon iawn gan AVANC yn 2021. Aethant i dyrchu drwy archifau digidol y Llyfrgell Genedlaethol i ddarganfod ysbrydoliaeth, yna creu gwerth gig cyfan o ddeunydd newydd sbon – y cwbl dros Zoom.
Canlyniad hyn oedd gig rhithiol o Theatr Soar ym Merthyr yn ystod yr haf. O’r casgliad yma o ganeuon y daw eu sengl arswydys newydd, ‘Cân yr Ysbrydion’.
“Roedd chwilio drwy gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol ac archifau cerddoriaeth eraill yn wych yn ystod y pandemig a da ni wedi dod o hyd i gyfoeth o ddeunydd cerddorol ac ysbrydoliaeth greadigol” meddai Elisa Morris, lleisydd Afanc.
“Drwy ddefnyddio ac addasu elfennau gwreiddiol y gân draddodiadol rydym wedi creu naws newydd iddo sydd yn cyd-fynd a’r thema ysbrydion. Mae Dydd Miwsig Cymru wedi gwneud cryn dipyn i godi proffil cerddoriaeth Gymraeg a rhyddhau sengl yw’r ffordd orau i ni ddathlu’r diwrnod.”
Yn ystod eu sioe yn Glasgow, byddent yn rhannu’r llwyfan efo’u cyfatebwyr Albanaidd – criw o fyfyrwyr a cherddorion ifanc sydd ar drothwy gyrfa yn y busnes cerddoriaeth, ac yn derbyn hyfforddiant ar ddatblygu eu sgiliau – aelodau o’r Ceilidh Trail, sy’n cael ei redeg gan Feìs Rois.
Yn ogystal â chwarae eu cerddoriaeth eu hunain, byddent yn gweithio’n galed ar baratoi cywaith newydd sbon danlli, fydd yn archwilio’r cyfatebiaeth a’r gwahaniaeth rhwng eu traddodiadau, ac yn barod i swyno cynulleidfaoedd yr ŵyl.