Awst yn rhyddhau ‘Sant y Lloer’

Mae Awst wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Sant y Lloer’ ers ddoe, 1 Ebrill.

Awst ydy prosiect cerddorol diweddaraf y cerddor cyfarwydd Cynyr Hamer, ac mae’r sengl newydd allan ar label Recordiau Piws.

Mae ‘Sant y Lloer’ ac mae’n ddilyniant i’w sengl ddiweddaraf, ‘Haul Olaf’ a ryddhawyd ddiwedd mis Tachwedd. 

Y newyddion da pellach ydy bod y sengl newydd yn flas o EP dan yr enw ‘Haul/’Lloer’ fydd yn cael ei ryddhau’n fuan gan Awst. 

 

Mae Cynyr Hamer yn gerddor adnabyddus i unrhyw un sy’n dilyn cerddoriaeth gyfoes Gymraeg, yn bennaf diolch i’w waith fel aelod o’r bandiau Worldcub (CaStLeS gynt), Hippies vs Ghosts ac We Are Animal.

Mae Awst yn brosiect unigol newydd ganddo, ac mae wedi bod yn brysur yn ysgrifennu ac yn recordio caneuon newydd ers haf 2020. R

hyddhawyd ei gynnyrch cyntaf ym mis Ebrill 2021 sef y sengl ddwbl ‘Lloeren’ a ‘Send a Sign to the Satellite’.

Hyd yma mae ei ganeuon wedi cael eu recordio ar beiriant digidol Tascam, ac yn gyffredinol mae’n ceisio cadw at y ‘first takes‘ i geisio dod â’r elfen ddigymell i’r gerddoriaeth. Mae caneuon Awst wedi’u crefftio o alawon acwstig, drymiau chill, wedi’u haenu â gitars breuddwydiol ac adrannau pres.

Er ei bod hi’n ddyddiau cynnar ar y prosiect mae eisoes wedi creu argraff gyda’r traciau ‘Haul Olaf’, ‘Lloeren’ ac ‘Send a Sign to the Satellite’ wedi cael derbyniad cynnes iawn ar BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru a chylchgrawn Y Selar wrth gwrs!