Bato Mato yn ein tywys o Ulan-Ude i Gaerfyrddin

Mae Adwaith wedi rhyddhau eu halbwm newydd ers dydd Gwener diwethaf, 1 Gorffennaf, ar label Recordiau Libertino. 

Bato Mato ydy enw ail record hir y triawd o Gaerfyrddin, ac mae’n ddilyniant i’w halbwm cyntaf gwych, Melyn, a gipiodd deitl Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019. 

Mae’r ddwy sengl sydd wedi’u rhyddhau’n barod i gynnig blas o’r albwm, sef ‘ETO’ a ‘Wedi Blino’ wedi denu ymateb ardderchog o bob cyfeiriad.  

Taith gan y band i Ddwyrain Ewrop ydy’r prif ddylanwad ar y record hir ddiweddaraf gan y grŵp sy’n mynd o nerth i nerth, ac mae’n dangos datblygiad clir yn eu cerddoriaeth. 

Wrth deithio i gyrion rhewllyd Rwsia ar y Trans-Siberian Express, sef y rheilffordd hiraf yn y byd, yn sydyn teimlai’r band ymhell o’u cartref nôl yng Nghaerfyrddin. 

Wedi’u harwain gan eu tywysydd ffyddlon Bato Mato wrth i Lyn Baikal rhewllyd chwipio heibio’r ffenestri, cyrhaeddodd y triawd ddinas rynllyd Ulan-Ude. Roedd y palmentydd yn wag wrth i bobl leol frwydro yn erbyn yr oerfel, gan baentio’r strydoedd mawreddog  a rhyw fath o unigedd. 

Yn rhyfedd iawn, gwelais debygrwydd rhwng y fan honno, a Chaerfyrddin,” meddai’r drymiwr Heledd Owen. 

“Fe allech chi deimlo’r unigrwydd hwn. Roedd yn teimlo fel y ddinas wag hon.”

Ac wrth i Adwaith deithio ymhellach i Ddwyrain Ewrop, trawsnewidiodd y daith yn un o ddarganfod creadigol.

Realiti’n taro

Tra bod albwm cyntaf y band yn ffilm gerddorol, yn breuddwydio am bosibiliadau bod yn oedolyn, mae Bato Mato yn syllu mewn i ddrych ac yn gweld realiti llwm yn brathu. 

Mae atgofion y band o deithio trwy Rwsia wedi treiddio i wead yr albwm newydd gyda thraciau pwerus diwydiannol fel ‘Yn Y Sŵn’ ac ‘Anialwch’ yn tanio atgofion o pistons di-baid y trên cyflym aeth â nhw drwy’r wlad. 

“Roedd ein halbwm cyntaf yn ymwneud yn fawr iawn â thyfu i fyny yng ngorllewin Cymru a mynd o bobl ifanc yn ein harddegau i oedolion,” meddai Gwenllian Anthony o’r band. 

“Dyma’r cam nesaf yn ein taith: shit, dyma fywyd. Dyma realiti’n taro.”

“Roedd yn daith a newidiodd ein bywydau a’n hysbrydolodd i ysgrifennu’r albwm hwn,” eglura’r basydd Gwenllian Anthony. 

“Fe wnaeth y dirwedd ddiffrwyth a’r bensaernïaeth brutalist dreiddio i’r caneuon hyn a chafodd y defnydd o offerynnau’r byd ei ysbrydoli’n fawr gan y daith hon.”

“Dylanwadodd ein taith trwy anialwch Siberia a Mongolia ar yr ysgrifennu ac ar sain yr albwm i fod mor agored a mawr â’r awyr ddiderfyn o’n cwmpas ni yno,” ychwanega’r gitarydd a phrif ganwr, Hollie Singer.

Gwthio ffiniau

Er eu bod eisoes wedi dechrau ar y gwaith o ddilyniant i albwm cyntaf Melyn, daeth newid cyfeiriad yn syth ar ôl dychwelyd i gefn gwlad gorllewin Cymru wrth i’r pandemig daro.

Yn hytrach, daeth y daith â gweledigaeth hollol newydd, ac wedi’u cloi ar wahân mewn tai gwahanol, dechreuodd Adwaith weithio ar ryddhad a blymiodd yn ddwfn i’r unigedd a’r dryswch o lywio tirwedd flêr eich ugeiniau cynnar. Y canlyniad yw Bato Mato sy’n bigog ac yn gwthio’r ffiniau. 

Mae Bato Mato yn tynnu ar lwyth o ddylanwadau’r grŵp, gan gynnwys yr arloeswyr Cymreig Datblygu, y grŵp post-pync Gothig Siouxsie and the Banshees, a niwl digalon Belly and The Breeders. Uwchlaw popeth arall, mae’n hwyl; wedi’u hysbrydoli gan gymrodoriaeth bandiau fel The Slits, mae gwahoddiad i bawb ymuno â’r parti.

Dyma ‘Bywyd Syml’ o’r albwm: