Calendr llawn gwanwyn Bwncath

Mae’r grŵp poblogaidd o’r gogledd, Bwncath, wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs sydd ar y gweill ganddynt dros fisoedd y gwanwyn. 

Mae Bwncath, a gipiodd dair o Wobrau’r Selar flwyddyn yn ôl, yn adnabyddus fel band sy’n gigio’r rheolaidd, ac wrth i gyfyngiadau’r pandemig lacio eto yng Nghymru mae eu calendr wedi llenwi ac yn cynnwys 15 o gigs rhwng hyn a diwedd mis Mai. 

Roedd y gyfres helaeth o gigs yn dechrau nos Sadwrn diwethaf (19 Chwefror) yn Y Ring yn Llanfrothen, ac mae ganddynt ddau gig y penwythnos nesaf – y cyntaf nos Wener (26 Chwefror) yng Nghlwb Rygbi Blaenau Ffestiniog ac yna nos Sadwrn yn Nhŷ Newydd, Aberdaron. 

Dyma’r rhestr gigs sydd wedi’i gyhoeddi’n llawn:

19 Chwefror –  Y Ring, Llanfrothen

25 Chwefror – Clwb Rygbi Blaenau Ffestiniog

26 Chwefror – Tŷ Newydd, Aberdaron

12 Mawrth – Tŷ Newydd, Sarn Mellteyrn

17 Mawrth – Tafarn y Glôb, Bangor

18 Mawrth – Undeb Myfyrwyr, Caerdydd

19 Mawrth – Y Griffin, Penrhyndeudraeth 

23 Mawrth – Iorwerth Arms, Bryngwran

16 Ebrill – Tafarn yr Afr, Maerdy

30 Ebrill – Nanhoron, Nefyn

7 Mai – Gŵyl Fel ‘na Mai, Crymych

14 Mai – Gŵyl Fwyd Caernarfon

14 Mai – Neuadd y Dref, Dinbych

21 Mai – Gŵyl Fach y Fro, Y Barri

28 Mai – Rali Ffermwyr Ifanc, Aberdaron