Cân Cwpan y Byd Josgins

Josgins ydy’r band diweddaraf i ymuno â’r rhestr o fandiau sy’n rhyddhau sengl i gefnogi ymgyrch tîm pêl-droed Cymru yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Quatar. 

‘Waka Waka Cymru’ ydy enw’r sengl newydd sy’n cael ei rhyddhau’n swyddogol ar label Tarw Du ar 11 Tachwedd. 

Band o ardal Dolgellau ydy Josgins ac maent yn adnabyddus am ryddhau sengl thema bêl-droed bob hyn a hyn. Bu iddynt ryddhau’r sengl ‘Mint Sôs’ dan enw Y Sybs i gyd-fynd ag ymgyrch Cymru yn Ewro 2016, ac yna’r trac ‘Poethi’ ar y cyd â’r cefnogwr Wrecsam enwog, Bootleger, yn 2020. 

Bydd fersiwn Gymraeg a Saesneg o’r sengl yn cael eu rhyddhau i’w ffrydio a lawr lwytho ar yr holl lwyfannau digidol arferol.  

Yn y frwydr ffyrnig rhwng artistiaid i gael eu sengl Cwpan y Byd wedi eu cydnabod, mae Josgins wedi recriwtio perchennog cwmni nwyddau pêl-droed enwocaf Cymru, ‘Spirit of 58’, i hyrwyddo’r sengl fel ‘cân Cwpan y Byd tîm Cymru 2022. 

“Rydym yn hapus iawn i hyrwyddo sengl Waka Waka Cymru gan Josgins fel rhan o ymgyrch tîm Cymru yng Nghwpan y Byd’ meddai Tim Williams o gwmni Spirit of 58 sydd wedi’u sefydlu yn Y Bala. 

“Gadewch i ni helpu’r tîm i fynd yr holl ffordd sut bynnag y gallwn”.

Prif ganwr Josgins ydy Iestyn Jones, oedd hefyd yn aelod o’r grŵp Rwbowder rai blynyddoedd yn ôl ac mae’n falch o’r cyfle i recordio cerddoriaeth gyda’i brosiect diweddaraf unwaith eto. 

“Mae hi ‘di bod yn grêt cael recordio eto. Mae’r swn gitâr a synau sonig cyfoes yn cyfuno’r traddodiadol a’r newydd ar y trac yma” meddai Iestyn. 

“Mae ‘Waka Waka Cymru’ yn ddathliad o bêl-droed ledled y byd!