Candelas yn rhyddhau fersiwn o glasur Brân

Fel rhan o ddathliadau pen-blwydd label Recordiau I KA CHING yn 10 oed, mae Candelas wedi rhyddhau fersiwn newydd o gân a ryddhawyd yn wreiddiol gan y grŵp eiconig o’r 1970au, Brân. 

‘Y Gwylwyr’ ydy’r trac dan sylw, ac mae fe’i rhyddhawyd fel sengl ddydd Gwener diwethaf, 28 Ionawr. 

Rhyddhawyd y gân yn wreiddiol gan y grŵp Brân ar eu halbwm ‘Ail Ddechrau’ ym 1975.

Yr hyn sy’n gwneud y fersiwn newydd mor arbennig ydy bod Nest Llewelyn (Howells ar y pryd) oedd yn canu ar y fersiwn wreiddiol, wedi ymuno â Candelas i recordio a rhyddhau’r fersiwn newydd. 

Dathlu deg I KA CHING

Mae’r trac yn flas o’r hyn sydd i ddod ar albwm aml-gyfrannog fydd yn cael ei ryddhau ar 20 Mai i nodi pen-blwydd label I KA CHING. 

Yn 2021 fe gyrhaeddodd I KA CHING garreg milltir arwyddocaol wrth ddathlu deng mlynedd ers ffurfio’r label. 

Dechreuodd y dathliadau pen-blwydd gyda Gig y Pafiliwn ym mis Awst 2021, ble daeth rhai o artistiaid y label ynghyd i berfformio trefniannau arbennig o’u caneuon gyda Cherddorfa’r Welsh Pops. Ond oherwydd y sefyllfa oedd ohoni llynedd, doedd dim modd gwireddu pob rhan o’r cynlluniau dathlu, felly mae’r label wedi penderfynu bod rhaid parhau eleni a hynny gyda chlamp o gasgliad o ganeuon newydd ac ail-gymysgiadau gan artistiaid y label. 

Bydd un gân yr wythnos yn cael ei ryddhau ganddynt nes 20 Mai, sef dyddiad rhyddhau’r casgliad llawn o un gân ar bymtheg. Bydd y casgliad yn cael ei ryddhau ar ffurf record feinyl ddwbl.

Gwion Schiavone a Gruff Ifan greodd y label yn 2011 er mwyn rhyddhau cynnyrch eu bandiau ar y pryd, sef Jen Jeniro a Texas Radio Band. Dros y ddegawd ers hynny mae I KA CHING wedi bod yn gartref i bump ar hugain o artistiaid – rhai’n dal i berfformio ac eraill wedi rhoi’r gorau iddi. Ond heb os, mae’r label wedi gneud cyfraniad helaeth i’r sîn gerddoriaeth Cymru gyda thros 400 o ganeuon wedi eu rhyddhau ganddynt. 

Yr un ias yn parhau

Candelas a Nest Llewelyn sy’n rhyddhau eu cyfraniad nhw i’r casgliad yn fgynta.. Mae ‘Y Gwylwyr’ yn un o ganeuon enwocaf Brân ac yn aros yn y cof oherwydd ei rhythmau cymhleth, stacato a’r twin solos ail-adroddllyd, clyfar.

Ond efallai mai’r peth mwyaf cofiadwy ydy llais iasol Nest ar y trac, ac mae’r un ias yn parhau gyda’r fersiwn newydd.

“Roedden ni’n arfer chware ‘Y Gwylwyr’ yn fyw yng nghyfnod ein halbwm cynta’ pan o’n i ar y dryms ac yn canu”, meddai Osian Huw, prif leisydd a gitarydd Candelas. 

“Ond ar y pryd, roedde ni’n teimlo fod y riff gitâr yn rhy eiconig i neb ryddhau cyfyr ohoni.”

“Wedyn yn hwyr un noson yn stiwdio Sain, wrth recordio dwy o’n senglau diweddara’, daeth y gân i’r cof a dyma feddwl y bydde hi’n wych ar gyfer y casgliad yma, a chael Nest i ganu arni yn goron ar y cwbl.”

“Ro’n i ffansi mynd nôl ar y drymiau fel yn yr hen ddyddiau, felly dyma ni’n gosod dau set o ddrymiau i wynebu ei gilydd, gosod meic ar bawb a’i recordio hi i gyd yn fyw mewn amser byr iawn.

“Y diwrnod canlynol, dyma ni’n cysylltu hefo Nest ac yn lwcus, roedd hi’n fwy na hapus i ganu ar y trac newydd. Ac fel y clywch i ar y sengl, mae ansawdd ei llais hi’r un mor berffaith ag erioed.”

Cafodd y fersiwn newydd ei chwarae am y tro cyntaf ar raglen Lisa Gwilym ar BBC Radio Cymru nos Fercher diwethaf, 26 Ionawr, fel rhan o raglen arbennig yn edrych yn ôl ar hanes y label recordiau. 

Cyhoeddwyd fideo ar gyfer y trac gan gyfres Lŵp, S4C ar y diwrnod rhyddhau hefyd. Mae’r fideo wedi’i gyfarwyddo gan Eilir Pierce ac yn serennu’r actorion Rhys Richards a Manon Alaw. 

Dyma’r fid: