Carcharorion yn ail-gymysgu trac Steve Eaves

Trac newydd gan y ddeuawd electronig Carcharorion ydy’r diweddaraf i ymddangos o gasgliad dathlu deg blynedd ers sefydlu label Recordiau I KA CHING. 

Dros y bythefnos ddiwethaf rydyn wedi gweld cyfyr gan Candelas o glasur gan y band Brân, a thrac newydd gwreiddiol gan y pianydd Gwenno Morgan

Ailgymysgiad ydy’r offrwm diweddaraf a ryddhawyd ddydd Gwener diwethaf, 11 Chwefor. 

Fersiwn newydd o’r gân ‘Y Milltiroedd Maith’ gan Steve Eaves ydy cyfraniad Carcharorion i’r albwm I KA CHING fydd yn cael ei ryddhau ym mis Mai. 

Rhyddhau’r Carcharorion

A hwythau wedi bod yn dawel ers ychydig flynyddoedd, efallai bydd enw Carcharorion yn anghyfarwydd i rai.

Prosiect electronig Huw Cadwaladr a Gruff Pritchard ydy’r grŵp ac fe ryddhawyd ei EP cyntaf, Hiraeth, ar label Peski yn 2014. 

Yn ddiweddarach, ymunodd Carcharorion ag I KA CHING er mwyn rhyddhau eu EP nesaf, oedd yn rhannu enw’r grŵp, yn 2016.

Cyfeiriad gwahanol

Rhoi stamp unigryw o sampyls o leisiau Dr Meredydd Evans a Gerallt Lloyd Owen oedd rhinwedd yr EP cyntaf, ond roedd yr ail yn canolbwyntio ar gyfansoddiadau gwreiddiol.

Mae’r grŵp wedi mynd i gyfeiriad fymryn yn wahanol eto gyda’u cyfraniad i gasgliad deng mlwyddiant I KA CHING trwy ail-gymysgu un o ganeuon Steve Eaves. 

“Mae cerddoriaeth Steve Eaves yn ddylanwad enfawr ar gymaint o bobl,” eglura Gruff, sydd hefyd yn aelod o’r Ods. 

“Mae’n fraint cael rhoi gwedd newydd i gân mor arbennig. Ryda ni wedi trio creu trac sy’n agored ond dwys er mwyn rhoi lle i’r gwrandäwr glywed llais a geiriau Steve o’r newydd.”

Rhyddhawyd y fersiwn wreiddiol o’r gân ym 1996 ar yr albwm Steve Eaves a Rhai Pobl, Y Canol Llonydd Distaw. 

Roedd cyfle cyntaf i glywed y fersiwn wedi’i ail-gysgu ar raglen Huw Stephens ar BBC Radio Cymru neithiwr, oedd yn cael ei gyflwyno gan Ifan Siôn Davies. 

Llun: Carcharorion @ Gwobrau’r Selar 2015 (Celf Calon)