‘Carry Me’ – sengl newydd Thallo

Mae Thallo, sef prosiect y gantores dalentrog Elin Edwards, wedi rhyddhau ei sengl Saesneg ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf.

‘Carry Me’ ydy enw’r trac  hudolus o jazz / alt-pop wedi’i hysbrydoli gan brofiad personol Thallo o broblemau symud.

Mae Carry Me’ yn ragflas cyntaf o EP ddwyieithog Thallo fydd yn cael ei ryddhau ym mis Medi 2022. Thema’r EP yw stori Thallo ei hun am boen cronig, wrth iddi ysgrifennu’r caneuon roedd hi mewn gymaint o boen, yn aml yn methu â sefyll na cherdded ar ôl dioddefaint anesboniadwy oedd yn achosi poen oedd yn gwanhau ei phengliniau. 

“Ysgrifennais ‘Carry Me’ yn y cyfnod clo, a oedd yn gyfnod rhyfedd o golli fy ngwaith, bywyd cymdeithasol, ac yna beth oedd yn teimlo fel colli fy nghorff i boen cyson” eglura Elin.  

“Teimlais yn gwbl anobeithiol a gwelais don gyfarwydd o iselder yn agosáu. Mae ‘Carry Me’ yn ymwneud â’r union foment hon o sylweddoliad a phanig.”