Mae Carwyn Ellis wedi rhyddhau albwm newydd o’r enw ‘Across the Water’ ers dydd Gwener diwethaf, 6 Mai.
Mae’r albwm allan yn ddigidol ar safle Bandcamp yn unig gyda 50% o’r elw gwerthiant yn mynd tuag at Ganolfan Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches Oasis yng Nghaerdydd.
Ar wahân i un neu ddau eithriad, mae’r caneuon i gyd yn rai syml sy’n canolbwyntio ar y piano a’r llais, gan olygu sŵn gwahanol iawn i’w recordiau blaenorol gyda’r grwpiau Colorama a phrosiect Lladin Americanaidd Rio 18.
Record hir gyntaf Carwyn
Er ei holl albyms gyda’r grwpiau hynny, ac ambell sengl unigol mae wedi rhyddhau, mae’n anodd credu mai dyma albwm llawn cyntaf Carwyn fel artist unigol.
Recordiwyd yr albwm gydag Edwyn Collins a Jake Hutton yn stiwdio Collins yn Helmsdale.
Mae neges glir i’r albwm fel yr eglura Carwyn…
“Mae’r albwm yma wedi’i gyflwyno i’r bobl ddewr sydd wedi croesi’r moroedd dros y milenia gan chwilio am fywyd gwell – pobl ddylid eu hedmygu a pharchu, nid eu gelyniaethu a gwawdio” meddai Carwyn am y record.
“Mae hefyd wedi’i gyflwyno er cof am y nifer o bobl a geisiodd, ond na lwyddodd i’w gwneud hi, ond sydd gobeithio wedi darganfod heddwch yn lle.”
Taith ffoaduriaid
Mae’r gerddoriaeth ar yr albwm yn ymdrin â thaith ddychmygol ffoadur yn teithio i chwilio am fywyd gwell – eu gobeithion, ofnau, y peryglon, tristwch i’r rhai sydd ddim yn cyrraedd, a’r hyn sydd yn eu disgwyl os ydynt yn llwyddo i gyrraedd pen eu taith.
Mae’r record yn canolbwyntio’n bennaf ar y daith o ogledd Affrica i dde Ewrop ond yn berthnasol i unrhyw daith beryglus sydd wedi wynebu ffoaduriaid yn y gorffennol – yn ansicrwydd, yr ymdrech, a’r drwgdeimlad sy’n aml yn aros amdanynt.
Mae pedwar o’r deg trac ar y casgliad yn ganeuon piano offerynnol, gyda ‘The Boy on the Beach’ yn cael ei gyflwyno er cof am Alan Kurdi, sef y bachgen bach tair oed o Syria a gollodd ei fywyd ym môr y canoldir yn 2015, ynghyd â’i fam a brawd.
Mae’r traciau sy’n cynnwys llais yn bennaf yn galw am fwy o empathi a thosturi tuag at ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae ‘Seventy Four; yn trafod yr achos yn 2017 pan fu i gyrff 74 o ffoaduriaid olchi i’r lan yng ngogledd Lybia.
Ceir un cyfyr ar yr albwm sef ‘Bound for Lampedusa’, fersiwn newydd o’r gân hyfryd sy’n wreiddiol gan The Gentle Good ac sy’n ymdrin â’r daith epig a pheryglus gan ffoaduriaid o wledydd i’r de o Sahara i Ewrop.