Mae label Ankstmusik wedi atgyfodi record aml-gyfrannog a’i rhyddhau’n ddigidol am gyfnod byr er mwyn codi arian at elusen cancr.
Rhyddhawyd ‘Ankst Records: Radio Crymi Playlist Vol 1 1988 – 1998’ yn wreiddiol yn 2003 ar ffurf CD dwbl ac mae’n cynnwys 39 o draciau a ryddhawyd gan label enwog Ankst rhwng 1988 a 1998.
Ymysg y caneuon mae traciau gan Y Cyrff, Ffa Coffi Pawb, Geraint Jarman, Gorky’s Zigotic Mynci, Catatonia, Topper, Datblygu a llawer mwy.
Nawr mae’r label wedi penderfynu rhyddhau’r albwm yn ddigidol ar eu safle Bandcamp gydag unrhyw elw’n mynd tuag at elusen cancr The Osborne Trust – elusen sy’n cefnogi plant sydd â rhieni’n mynd trwy driniaeth cancr.
Cân agoriadol y casgliad ydy’r ardderchog ‘Cân i Gymru’ gan ein hen gyfeillion, Datblygu: