Mae Fiona & Gorwel Owen wedi rhyddhau eu catalog o gerddoriaeth yn ddigidol am y tro cyntaf, gan gynnwys tri albwm wedi’u recordio rhwng 2002 a 2015.
Mae Fiona Owen yn fardd ac yn gerddor, ac mae ei gwr, Gorwel Owen, yn gynhyrchydd ac yn gerddor, ac wedi gweithio gydag artistiaid fel Datblygu, Gorky’s Zygotic Mynci a Super Furry Animals. Ym 1987, sefydlodd Gorwel ei label ei hun, Recordiau Ofn, yn Ynys Môn. Bu’r ddau’n aelodau o’r grwpiau amgen arloesol Eirin Peryglus a Plant Bach Ofnus hefyd.
Mae’r recordiau sydd wedi’u rhyddhau’n ddigidol nawr yn cynnwys:
In Between – Albwm stiwdio wedi’i recordio yn 2002 gyda nifer o ffrindiau, gan gynnwys nifer o aelodau Gorky’s Zygotic Mynci
Spring Always Comes: Mwy o deimlad byw na stiwdio, gyda nifer o berfformwyr o’r record gyntaf gan gynnwys Cass Meurig, John Lawrence ac eraill. Mae’r record, a ryddhawyd yn 2008, yn gymysgedd o Gymraeg a Saesneg, gyda geiriau dwy gân gan Aled Jones Williams a Waldo.
Releasing Birds: Dim ond Fiona a Gorwel recordiodd hon yn y stiwdio, gan ei rhyddhau yn 2015. Ffurfiwyd yr albwm drwy ryddhau cân pob mis, gan ddwyn at ei gilydd ddoniau ysgrifennu, offerynnol acwstig ac arbrofol y blynyddoedd cynt.