Cerddoriaeth yn ysbrydoli artist gwaith celf Gwobrau’r Selar

Wel, mae uchafbwynt calendr blynyddol Y Selar wedi pasio, ac enillwyr teilwng Gwobrau’r Selar eleni i gyd wedi’u cyhoeddi.

Gan nad oedd digwyddiad byw eto eleni, bu’n rhaid llongyfarch yr enillwyr dros y tonfeddi am y tro, ond bydd y gwobrau’n cael eu cyflwyno yn y cnawd iddynt yn fuan iawn.

Beth am y gwobrau eu hunain felly?

Bob blwyddyn mae’r Selar yn falch iawn o gydweithio gyda Coleg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant i gynnig cyfle i un o fyfyrwyr yr adran greu’r gwaith celf arbennig sy’n cael ei roi i’r enillwyr.

Eleni, Ffion Richardson dderbyniodd y dasg ac mae wedi creu darnau celf unigryw a phrydferth fydd heb os yn cael eu trysori gan yr enillwyr.

Mwy am Ffion

2 o’r gwobrau gan Ffion

Mae Ffion yn 22 mlwydd oed o Dyddewi, Sir Benfro.

Graddiodd o Goleg Celf Abertawe mewn Patrwm Arwyneb blwyddyn diwethaf ble roedd hi’n dylunio ar gyfer arwynebau meddal fel tecstilau a hefyd arwynebau caled fel cerameg. Mae Ffion yn gweithio fel artist preswyl dan Nawdd Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yng Ngholeg Celf Abertawe swydd sydd yn rhoi cyfle i raddedigion cynnar i weithio yn greadigol a chefnogi cymreictod gyda staff a myfyrwyr y Coleg Celf.

Hi hefyd yw perchennog ‘Clai gan Ffion’, busnes bach ar Instagram sy’n gwerthu gemwaith cerameg. Mae ei gwaith yn aml yn efelychu naws y môr a fynegir yn ei steil abstract a pheintiadol hi.

Mae Ffion yn mwynhau defnyddio lliw mewn ffordd hyderus ac amlwg gan greu rhywbeth sydd â harmoni wrth iddi ddewis lliwiau cryf i fynd gydag un neu ddau liw ysgafnach er mwyn i’r cyfansoddiad gael balans.

Gwaith celf Gwobrau’r Selar

Mae dylanwadau Ffion yn cael eu cyfleu yng ngwaith celf Gwobrau’r Selar eleni –  yn benodol yn ei sgwariau colaj bach, sydd wedi cael eu creu ar gyfer y gwobrau’r.

Mae dylanwad cerddorol hefyd gyda phob sgwâr yn unigryw ac wedi’u grefftio wrth wrando ar ganeuon Cymraeg.

Rhoddwyd rhai elfennau o eiriau / enwau’r caneuon yn y gwaith – dynodiadau i ‘Môr o Gariad’ gan Meic Stevens; ‘Aberystwyth yn y Glaw’ gan Ysgol Sul; ‘Cwîn’ gan Gwilym a mwy.

Mae Ffion wedi defnyddio hen racs o ffabrig sydd wedi cael ei sgrîn-brintio, carpiau o garthenni Cymraeg, a’u torri nhw’n abstract a dewis lliwiau penodol er mwyn creu’r un awyrgylch a glywir yn y gerddoriaeth.   

Cyfle anhygoel

Gwobr 2021 – Merched yn Gwneud Miwsig

“Braint oedd creu’r gwobrau ar gyfer Gwobrau’r Selar 2021” meddai Ffion am y profiad.

“Mae ‘di bod yn gyfle anhygoel i uno fy rhinweddau cerddorol gyda fy ngwaith i greu rhywbeth sbeshal!”

Oherwydd amgylchiadau anarferol cyflwyno’r Gwobrau eleni, nid ydy’r enillwyr wedi derbyn y gweithiau celf eto…ar wahân i un!

Roedd modd i ni drefnu bod criw Heno yn mynd a ‘Gwobr 2021′ gyda nhw wrth gyfweld Elan Evans am brosiect Merched yn Gwneud Miwsig ar y rhaglen nos Fercher, ac roedd Elan wrth ei bodd â’r wobr.

“Am wobr hyfryd gan yr artist Ffion Richardson” meddai Elan wrth sgwrsio â’r Selar.

“Newn ni drysori’r wobr arbennig yma — mae’r haenau o ffabrig sy’n cael ei ddefnyddio yn y darn yn dod at ei gilydd i greu cyfanwaith arbennig iawn.

“Ni wrth ein boddau mae ni sydd wedi ennill Gwobr 2021, ac mae’r ffaith mae artist benywaidd sydd wedi creu’r wobr eleni hefyd, yn goron ar y cyfan.

“Diolch o galon i’r Selar am hwn — i unrhyw ferch sy’n darllen hwn sydd wastad wedi moyn trio cyfansoddi, DJio, perfformio, chwarae offeryn neu hyrwyddo, cofiwch bo’ ‘da chi ffrindiau yn Merched yn Gwneud Miwsig.”

Rydan ni’n edrych ymlaen yn fawr at weld gyrfa Ffion yn mynd o nerth i nerth yn y dyfodol.

Prif lun: Ffion Richardson