Chroma – label newydd a sengl newydd ar y ffordd

Mae’n gyfnod cyffrous i’r grŵp roc o’r Cymoedd, Chroma, wrth iddynt ddatgelu eu bod wedi ymuno â label newydd, ac eu bod hefyd ar fin rhyddhau eu sengl nesaf. 

Chroma ydy’r band diweddaraf i ymuno â’r label o Gaerfyrddin, Recordiau Libertino, a byddan nhw’n rhyddhau eu cynnyrch cyntaf gyda’r label ar ddiwedd mis Mehefin. 

Sengl ddwbl fydd y cynnyrch hwnnw, gyda’r traciau ‘Weithiau’ a ‘Caru Cyffuriau’ allan ar 24 Mehefin. 

“Mae Weithiau yn gân am orffen perthynas gyda rhywun ti’n caru a’r proses o ddod i deall  bod pethau ddim yn gweithio. Mae am rhoi dy hun gyntaf” meddai Katie Hall o’r band. 

Mae ‘Weithiau’ yn gân emosiynol bwerus ac mae ei melancholy diwyro yn cyferbynnu’n berffaith gyda ‘Caru Cyffuriau’ sy’n gân pync ddi-stop ‘in your face’ am fod yn dy arddegau yng nghymoedd de Cymru.

“Mae ‘Caru Cyffuriau’ am ‘naughty’ teenagers yn y cymoedd yn mynd lan y mynydd i cymryd ‘drugs’ ac arbrofi gyda rhyw achos does dim lot i neud” eglura Katie am yr ail drac. 

“Fi’n meddwl does dim digon o adnoddau i pobl ifanc mewn ardal fel y cymoedd. Mae angen mwy o adnoddau a pethau i pobl ifanc neud rhag i nhw deimlo mor ynysig. 

“O ni moen sgwenni trac pync yn y Gymraeg, sydd yn adlewyrchu profiad go iawn pobl heddiw.”

Recordiwyd y caneuon yn fyw i ddal sain amrwd ac egnïol y triawd o’r Cymoedd gan y cynhyrchydd Kris Jenkins (Cate Le Bon, SFA, Gruff Rhys).

Dyma’r ardderchog ‘Tair Ferch Ddoeth’ gan Chroma i’ch hatgoffa o ba mor dda ydyn nhw: