Chroma’n rhyddhau record fer Llygredd Gweledol

Mae CHROMA wedi rhyddhau eu EP newydd ers dydd Gwener diwethaf, 12 Awst, ar label Recordiau Libertino. 

‘Llygredd Gweledol’ ydy enw’r record fer ddiweddaraf gan y grŵp roc o’r Cymoedd ac fe gafwyd tamaid i aros pryd nes yr EP yn ddiweddar ar ffurf y sengl ‘Meindia’r Gap’ a ryddhawyd ar 29 Gorffennaf

Triawd roc pwerus o Dde Cymru ydy CHROMA gyda Liam Bevan ar y gitâr, Zac Mather ar y dryms a’r enigma Katie Hall yn canu. 

Mae’r triawd wedi ymuno â stabal gyfoethog o dalent Recordiau Libertino ers mis Mehefin ac fe ryddhawyd eu cynnyrch cyntaf ar y label ar 24 Mehefin  sef y sengl ddwbl ‘Weithiau’ a ‘Caru Cyffuriau’

Mae’r ddau drac yma, ynghyd â ‘Meidia’r Gap’ yn ymddangos ar yr EP Llygredd Gweledol, yn ogystal ag un trac arall sy’n rhannu enw’r EP. 

Bu iddynt recordio’r EP newydd yn fyw gyda’r cynhyrchydd amlwg Kris Jenkins, ac mae’r caneuon yn dal sain amrwd ac egniol CHROMA – sain sydd wedi selio’r band fel profiad byw y mae’n rhaid ei weld.

Yn ôl Libertino mae ‘Llygredd Gweledol’ yn gasgliad o ganeuon sy’n gadael y gwrandäwr yn awyddus am yr hyn a ddaw nesaf, mae’n droad y dudalen, yn dudalen wag gyda’r posibiliadau creadigol o ble mae CHROMA’n mynd nesaf. 

Mae adolygiad o’r EP newydd yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar

Dyma’r fideo Lwp ar gyfer yr ardderchog ‘Weithiau’: