Mae Melin Melyn wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Mawrth diwethaf, 27 Mehefin.
‘Nefoedd yr Adar’ ydy enw’r trac diweddaraf i ymddangos gan y grŵp lliwgar sydd wedi creu dipyn o argraff ar gynulleidfaoedd gyda’u perfformiadau egnïol a chaneuon rhyfedd.
Mwy o’r un peth sydd gan y band gyda’u sengl diweddaraf, sef y trac cyntaf oddi ar eu EP newydd, ‘Happy Gathering’, fydd yn cael ei rhyddhau dros y cwpl o fisoedd nesa.
Ma’r gân wedi ei hysbrydoli gan hen chwedl am Nefydd Hardd, brenin cenfigennus a foddodd dywysog ifanc mewn llyn yn Eryri yn y deuddegfed ganrif.
Enw’r tywysog oedd Idwal Foel, oedd yn wyr i’r brenin Rhodri Mawr, ac fe enwyd y llyn yn Llyn Idwal er cof amdano.
Credir nad oes yr un aderyn yn hedfan dros y llyn gan eu bod i gyd yn galaru, ac mi glywir udo yn y pellter pan fydd storm yn y cwm.
Cyhoeddwyd fideo i gyd-fynd â’r sengl, a hwnnw wedi’i gyfarwyddo gan yr amryddawn Edie Morris a’i brawd George Morris. Mae’r fideo i’w weld ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.
Mae ‘Nefoedd yr Adar’ yn ddilyniant i EP cyntaf Melin Melyn, ‘Blomonj’, a ryddhawyd ym mis Awst 2021.
Recordiwyd y gân yn stiwdio Tom Rees ac fe’i cynhyrchwyd gan Llyr Pari.
Roedd y grŵp yn chwarae mewn gig yn y Sebright Arms yn Llundain nos Fercher diwethaf, 28 Mehefin, ddiwrnod ar ôl rhyddhau’r Sengl. Bydd cyfle arall i’w gweld ar lwyfan wrth iddynt ddychwelyd i chwarae yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd fis Awst.