Fel rhan o weithgareddau Dydd Miwsig Cymru eleni, mae’r prosiect wedi lansio ymgyrch i ddarganfod seren bop nesaf Cymru.
Cynhelir Dydd Miwsig Cymru gan y Llywodraeth ar 4 Chwefror eleni, ac fel rhan o’r ymgyrch ‘Ysgol POP!’ bydd cyfle i un ysgol gynradd ennill £250 ac ymddangos ar raglen Stwnsh Sadwrn ar S4C ar 5 Chwefror.
Yr her ydy i ysgolion ysgrifennu a pherfformio pennill a chytgan cân ar y thema ‘Beth mae’r iaith yn feddwl i ti’.
Mae Dydd Miwsig Cymru wedi cyhoeddi trac miwsig offerynnol a chytgan wedi’i pherfformio gan Eädyth i ysbrydoli’r ysgolion.
Bydd angen ffilmio’r perfformiad ar ffôn a’i gyflwyno erbyn y dyddiad cau sef 4.30pm, dydd Gwener 28 Ionawr 2022.
Ceir manylion llawn y gystadleuaeth ar wefan Llywodraeth Cymru.