Mae’r supergroup Cymraeg a ffurfiodd yn ystod y cyfnod clo, Ciwb, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 24 Mehefin.
‘America’ ydy enw’r sengl newydd gan y grŵp ac unwaith eto maent wedi mynd i’r afael â chlasur o drac Cymraeg o’r gorffennol.
Ciwb ydy’r band a ffurfiodd yn rhithiol yn ystod y cyfnod clo ac sy’n cynnwys nifer o enwau amlwg i’r sin Gymraeg – Elis Derby, Marged Gwenllian (Y Cledrau), Gethin Griffiths (Sôn am Sin a bandiau amrywiol) a Carwyn Williams (Fleur de Lys, Gwilym).
Ar ôl cyhoeddi fideos ohonynt yn perfformio fersiynau newydd o ganeuon Cymraeg enwog o’r archif, bu iddynt ryddhau albwm llawn o cyfyrs ym mis Gorffennaf 2021 gan gyd-weithio gyda nifer o gerddorion unigol eraill i ganu ar y mwyafrif o’r traciau.
Mae’r grŵp wedi mabwysiadu’r un fformiwla ar gyfer eu sengl ddiweddaraf gan recriwtio Elan Rhys o’r band Plu i ganu ar y trac.
Un o glasuron Rhiannon Tomos, sef artist roc Cymraeg oedd yn amlwg iawn ar ddechrau’r 1980au ydy ‘America’.
Fe’i rhyddhau yn wreiddiol ar yr albwm ‘Dwed y Gwir’ gan Rhiannon Tomos a gyhoeddwyd ar label Recordiau Sain yn 1981.
Ffan o’r wreiddiol
Cafodd y gân ei chyfansoddi gan Rhiannon a Meredydd Morris ac roedd Ciwb yn teimlo bod y geiriau yn dal yr un mor berthnasol a’r arddull gerddorol yn eu siwtio.
“’Da ni’n ffan mawr o’r gwreiddiol” meddai Elis Derby o’r band.
“…ac roedden ni’n awyddus iawn i gael Elan i ganu hon gan bod yr arddull yn cyferbynnu’n dda efo’r stwff mae hi’n neud efo Plu.”
Mae Ciwb wedi cael nifer o gigs cofiadwy yn ddiweddar ac yn edrych ymlaen at gael perfformio’n fyw dros yr haf yn Eisteddfod Tregaron, Gŵyl Llanuwchllyn a lleoliadau eraill yn ogystal â recordio rhagor o ganeuon o archif ddi-ben-draw Sain.