Ar ôl ychydig o flynyddoedd prysur yn rhyddhau cerddoriaeth newydd dan ei enw ei hun a gyda’i brosiect Rio 18, mae Carwyn Ellis yn ôl gyda chynnyrch newydd gan ei fand hiroedolog, Colorama.
‘Liar’ ydy enw’r sengl gyntaf gan Colorama ers 2020 ac mae’r trac wedi’i ysgrifennu, recordio a pherfformio’n gyfan gwbl gan Carwyn.
Trac seicadelig ydy ‘Liar’ a dyma gynnyrch cyntaf Colorama i’w ryddhau ar label Bubblewrap Collective.
“Wrth i flwyddyn arall hyd yn oed yn fwy dryslyd na’r olaf ddod i ben, ‘Liar’ yw fy ffarwel i 2022” meddai Carwyn Ellis.
“Er bod y gân yn amlwg yn vitriolig, efallai hyd yn oed yn wenwynig, gallai fod am unrhyw un. Mae yna rhai unigolion amlwg…. Ond fe allai hefyd fod am y llifogydd o gelwydd, y llu o anwireddau, rydyn ni i gyd yn eu hwynebu’n aml.
“Yna eto, gallai fod yn ymwneud â mi. Neu gallai fod amdanoch chi. Byddai’n braf meddwl y gallem wneud yn well yn 2023.”
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl gan Scrub Kelly: