Comeback Yws Gwynedd yng Ngŵyl Maldwyn

Newyddion mawr – bydd Yws Gwynedd yn ôl ar lwyfan eleni!

Mae pedair blynedd a hanner ers i Yws chwarae ein gig diwethaf ar lwyfan byw, a hynny yn Neuadd Buddug, Y Bala ym mis Medi 2017. 

Ond wrth i drefnwyr Gŵyl Maldwyn ddechrau cyhoeddi eu lein-yp penwythnos diwethaf roedd cwpl o enwau’n dal y llygad.

Yn draddodiadol mae Gŵyl Maldwyn wedi bod yn cael ei chynnal yn Llangadfan ym Mhowys, ac mae’r trefnwyr wedi cadarnhau bydd yr ŵyl yn digwydd yn 2022 ar ôl cwpl o flynyddoedd o saib diolch i’r pandemig.

Cadarnhawyd bydd y digwyddiad yn bwrw ymlaen ar 24-25 Mehefin eleni, ond y gallwn ddisgwyl lleoliad newydd i’r arfer y tro hwn. 

Mae rhan o’r lein-yp eisoes wedi’i gyhoeddi gyda mwy o enwau i ddilyn, ac er mai gŵyl gymharol fach ydy hon fel arfer mae’r enwau cyntaf yn awgrymu ei bod yn llawer mwy uchelgeisiol yn 2022. 

Dau o gyn enillwyr teitl ‘Band Gorau’ Gwobrau’r Selar, Bwncath a Candelas, fydd prif atyniadau nos Wener yr ŵyl eleni, gydag Aeron Pugh, Yws Gwynedd a Mynediad am Ddim yn perfformio ar y nos Sadwrn. 

Er bod sawl enw mawr arall ar y leinyp cychwynnol, mae enw Yws yn neidio allan gan fod amheuaeth a fyddai o fyth yn camu’n ôl i’r llwyfan.

Dydan ni ddim am ddweud gormod, ond mae Yws wedi awgrymu wrth Y Selar mai nid dim ond one off ydy’r gig yma, ac y gallwn ddisgwyl mwy o newyddion ganddo’n fuan – cyffrous iawn yn wir!

Dywed trefnwyr Gŵyl Maldwyn eu bod am gyhoeddi mwy o fanylion am union leoliad yr ŵyl yn fuan, gydag addewid o lefydd gwersylla, carafanio a hyd yn oed glampio gerllaw. 

Maent hefyd wedi rhoi galwad i artistiaid ifanc sy’n awyddus i berfformio gysylltu i drafod slot posib.