‘Craen ar y Lleuad’ – ail ryddhau sengl olaf Plant Duw

Ar ôl ail-ryddhau eu halbwm cyntaf, ‘Y Capel Hyfryd’, yn ddiweddar, mae Plant Duw wedi neidio i begwn arall oes y band trwy ail-ryddhau eu sengl olaf ar 30 Medi. 

‘Craen ar y Lleuad’ oedd y sengl olaf gan y grŵp o Fangor ac fe’i rhyddhawyd yn swyddogol yn 2019. 

Er mai yn 2019 y rhyddhawyd y trac yn swyddogol, roedd yn rhan o repertoire Plant Duw ers y dyddiau cynnar ac yn cael ei pherfformio yn rhai o gigs cyntaf y band. 

Cafodd y trac ei recordio’n frysiog ar gyfer sesiwn C2, Radio Cymru yn 2005, cyn cael ei anghofio oherwydd awch y band i symud ymlaen gyda chaneuon newydd.  

Penderfynodd y grŵp i droi nôl at y gân wrth recordio eu halbwm olaf, ’Tangnefedd’, a’i ryddhau yn 2019 gyda fidio i fynd efo hi. 

Cân mewn arddull dw-wop ydi hon a gafodd ei hysgrifennu’n wreiddiol i gynnwys cornet Seán o’r band, ond un a drodd mewn i un o ffefrynnau’r band i’w chwarae’n fyw. 

“Hanner ffordd trwy’r darn trwm, pan ma’r dryms yn hitio’r snare ddwywaith yn yr un bar – da ni yn rocio efo’n gilydd, a does na ddim byd arall yn bodoli. Heblaw am y Craen ar y Lleuad” meddai Conor Martin, fryntman Plant Duw. 

Mae ‘Craen ar y Lleuad’ yn cael ei ail-ryddhau ar label Curiadau Ystyr, a hynny fis ar ôl rhyddhau albwm cyntaf Plant Duw, ‘Y Capel Hyfryd’, yn ddigidol am y tro cyntaf ar yr un label. 

Dyma’r fideo ar gyfer y trac a ryddhawyd yn 2019: