Wel wel, be di hyn? Ecsgliwsig bach blasus i ddarllenwyr Y Selar ar nos Iau ah ie?
Pam lai!
Rydan ni wedi bod mewn cysylltiad efo Elis Derby ers dechrau’r flwyddyn wrth i’r cerddor amryddawn recordio ei albwm newydd. Braf iawn oedd gweld ei ail record hir, Breuddwyd y Ffŵl, yn glanio ar ddiwedd mis Gorffennaf ac mae’r ymateb i’r casgliad newydd o ganeuon ers hynny wedi bod yn ardderchog.
Mae’n bleser gennym ni gynnig rhywbeth bach ychwanegol i chi i gyd-fynd â’r albwm sef fideo ar gyfer y teitl-drac sydd wedi’i greu gan Elis ei hun.
Bu’r cerddor yn dweud mwy am y fideo wrth Y Selar…
“Felly yn wreiddiol mi oni ’di planio mini doc ar gyfer gwneud yr albwm felly mi wnes i ffilmio bob dim oni’n gallu tra’n y stiwdio.
“Tra’n rhoi fideos byrion at ei gilydd i hyrwyddo’r albwm nes i sylwi bod y clips stiwdio yn mynd yn dda efo cerddoriaeth drostyn nhw, felly mi benderfynais wneud fideo cerddoriaeth ohonyn nhw yn lle!
“Mi oedd gen i lwythi o footage stiwdio, ond ar gyfer y diwedd mi o’n i ffansi rhywbeth fysa’n wahanol i weddill y fideo, felly mi fues i’n tyrchu trwy oriau o hen fideos teulu er mwyn creu rhyw fath o montage ohonaf yn tyfu fyny, gan ganolbwyntio’n bennaf ar unrhyw glipiau ohonof ar lwyfannau.”
Dwi’n siŵr y byddwch chi’n cytuno fod y canlyniad yn gweithio’n arbennig o dda – mwynhewch!