Cyfle cyntaf i weld…fideo ‘Lleuad Ddu’ gan Parisa Fouladi

Wrth i Gymru herio Iran yng Nghwpan y Byd heddiw, mae’n briodol iawn fod y gantores Gymreig-Iranaidd o Gaerdydd, Parisa Fouladi, yn rhyddhau ei sengl newydd hefyd.

‘Lleuad Ddu’ ydy enw’r trac newydd ac mae’n dilyn llwyddiant senglau blaenorol Parisa, sef ‘Siarad’, ‘Achub Fi‘ a ‘Cysgod yn y Golau‘.

I gyd-fynd â’r trac, mae’r gantores hefyd wedi cynhyrchu fideo newydd arbennig ac mae’n bleser gan Y Selar roi’r cyfle cyntaf i chi ei wylio.

Parisa Fouladi ydy prisuect cerddorol unigol Elin Fouladi, sydd hefyd yn aelod o’r grŵp pop siambr, Derw.

Nid dyma’r fideo cyntaf iddi gynhyrchu ar gyfer ei cherddoriaeth ac mae wedi troi at gyfaill iddi am ychydig o gymorth gyda’r diweddaraf.

“Fel y fideo wnes i ar gyfer ‘Cysgod yn y Golau’, nes i benderfynu creu fideo ‘Lleuad Du’ fy hun gyda bach o help gan fy ffrind Stacey Taylor tro ‘ma, i ffilmio’r footage tu allan” eglura Elin.

“Mae’n anodd ffilmio efo tripod wrth y môr yn y gwynt a’r glaw!

“Y peth grêt am weithio gyda Stacey oedd ei bod hi’n deall y vision odd gena’i. Roeddwn i eisiau mwy o shots amrywiol sy’n anodd pan ti’n trio gwneud rhywbeth yn hollol self-shoot. Dwi’n cael lot o fwynhad allan o ffilmio pethau, cyfarwyddo a golygu fy hun.”

Mae ’na neges glir i’r trac diweddaraf gan Parisa Fouladi, ac mae’n gobeithio bod y fideo’n adlewyrchu hynny.

“Y syniad tu ôl i’r fideo oedd dangos neges y gan, sef gobaith a golau newydd, a cheisio dangos hyn drwy’r visuals” meddai Elin wrth Y Selar.  

“Mae yna footage o brotestiadau Iran yng Nghaerdydd sy’n cynrychioli’r gobaith dwi’n trio ei grynhoi yn y gan. Dwi eisiau pobl i wrando ar y gan a theimlo’n obeithiol.”

Gwaith gwych unwaith eto gan Elin yn ein tyb ni, a dyma’r fid: