‘Cyfle’ newydd i Patryma

Mae’r grŵp roc o’r gogledd, Patryma, wedi ryddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 25 Tachwedd. 

‘Cyfle’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp sy’n dod o ardal Caernarfon. 

Band pedwar aelod ydy Patryma ac ymysg yr aelodau mae’r basydd Daf Jones, a’r drymiwr Rhys Evans sydd hefyd yn gyfarwydd fel aelod o I Fight Lions. Aelodau eraill y grŵp ydy’r canwr Siôn Foulkes a’r gitarydd Daniel McGuigan.

Mae Patryma yn disgrifio eu hunain fel ‘band roc amgen’. Ffurfiodd y band wrth i Siôn a Dan ddechrau ysgrifennu caneuon ar gyfrifiadur yn nhŷ Dan.

Band cymharol newydd ydyn nhw ac fe ddaethon nhw i amlygrwydd wrth ryddhau eu senglau  cyntaf, ‘Disgyn’, ym mis Mawrth 2020 ac yna ‘Pydru’ ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn. Er hynny, dyma’r cynnyrch newydd cyntaf ganddynt ers dros ddwy flynedd. 

Ers hynny maen nhw wedi dechrau gigio, a nawr yn barod i gymryd y cam nesaf gyda’r sengl newydd. 

Recordiwyd y sengl newydd gyda’r cynhyrchydd amlwg Rich Roberts, ac yn ôl y ffryntman Siôn, maent yn gobeithio dychwelyd i’r stiwdio gyda Roberts yn fuan yn y flwyddyn newydd. 

“Efo ‘Cyfle’, mae hi’n gân sydd wedi cael ei ysgrifennu ers i ni sgwennu set byw gig cyntaf ni efo Breichiau Hir Tachwedd 2021” eglura Siôn.  

“Oedd hi’n gân odda ni’n rili mwynhau chwara’n fyw, ag yn vibe gwahanol oedd ddim yna efo ‘Disgyn’ a ‘Pydru’, sef y caneuon y gwnaethon ni ryddhau yn 2020.”

Llun: Robert Holding