Cyflwyno Gwobrau’r Selar yn Eisteddfod yr Urdd

Ar ôl i’r enillwyr gael eu cyhoeddi nôl ym mis Chwefror, o’r diwedd roedd modd cyflwyno Gwobrau’r Selar eleni i dri enillydd ar faes Eisteddfod yr Urdd, Dinbych dros y penwythnos. 

Am yr ail flwyddyn yn olynol doedd dim modd cynnal digwyddiad Gwobrau’r Selar eleni oherwydd cyfyngiadau’r pandemig. Yn hytrach na hynny cafwyd cyhoeddiadau’r enillwyr fel rhan o raglenni arbennig ar BBC Radio Cymru ym mis Chwefror. 

Rhoddwyd cydnabyddiaeth briodol i’r enillwyr ar y pryd trwy sgyrsiau, setiau a sesiynau amrywiol a gafodd eu darlledu. 

Er hynny, dim ond un neu ddau o’r enillwyr a dderbyniodd eu gwobrau yn y cnawd ar y pryd sef darnau unigryw o gelf gan yr artist sy’n fyfyriwr yng​​ Ngholeg Celf Abertawe Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar hyn o bryd, Ffion Richardson. 

Y bwriad oedd i gyflwyno’r gwobrau i’r enillwyr i cyd mewn gigs unwaith roedd digwyddiadau byw yn ail-ddechrau.

Mae hynny wedi digwydd bellach, ac mae’n deg dweud mai Gŵyl Triban ar faes Eisteddfod yr Urdd dros y penwythnos ydy un o’r digwyddiadau cerddorol Cymraeg mwyaf hyd yn hyn wrth i’r mudiad ddathlu eu canmlwyddiant. 

Gwobrau i Marged, Y Cledrau a Morgan

Un o’r perfformwyr ar lwyfan Y Sgubor yn yr ŵyl nos Wener oedd Ciwb, ac roedd sypreis i un o’r aelodau, y basydd Marged Gwenllian, wrth i’w chyd-aelod Elis Derby gyflwyno ‘Gwobr 2021’ iddi’n ddirybudd yn ystod eu set. 

Roedd Marged yn ôl ar y llwyfan nos Sadwrn gyda’i grŵp arall, Y Cledrau, ac roedd yn gyfle perffaith iddynt dderbyn eu gwobr ‘Gwaith Celf Gorau’ am glawr eu halbwm diweddaraf, Cashews Blasus. Lisa Gwilym oedd yn cyflwyno’r bandiau ar y llwyfan a hi gafodd y pleser o roi’r darn o gelf i’r grwp. 

Roedd cyfle i gyflwyno un wobr arall nos Sadwrn hefyd, a hynny i’r bachgen lleol, Morgan Elwy a gafodd ei ddewis fel enillydd y teitl ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ gan y cyhoedd a fu’n pleidleisio dros enillwyr Gwobrau’r Selar nôl ar ddechrau’r flwyddyn. 

Mae nifer o’r gwobrau ar ôl i’w cyflwyno a bydd Y Selar yn datgelu ble a pryd fydd hynny’n  digwydd yn y dyfodol agos. 

Llun: Margen Gwenllian gyda’i Gwobr Seren y Sin (Llun gan Lisa Gwilym)