Cyfoethog, amrwd, arbrofol: Elis Derby ar ei albwm newydd

Mewn darn estynedig, Gruffudd ab Owain, sydd wedi bod yn sgwrsio gydag Elis Derby am ei albwm newydd, Breuddwyd y Ffŵl, sydd allan ddydd Gwener yma. 

Mae llwyfan perfformio i gerddorion wedi tyfu’n bwysicach nac erioed yn ddiweddar yng nghanol holl helbulon y byd a’i bethau, yn ogystal â ‘digideiddiad’ y byd cerddorol.

Mi wnaeth Elis Derby greu cryn argraff ar y sin gerddoriaeth yng Nghymru pan y gwnaeth o ryddhau ei albwm cyntaf, ‘3’, ddiwedd Ionawr 2020, a hynny wedi iddo ryddhau llond llaw o senglau cyn hynny i sefydlu’i hun fel enw adnabyddus yn y cylchoedd.

Ond fel nifer o artistiaid eraill, daeth y cyfnod clo i roi caibotsh go iawn ar unrhyw hyrwyddo o’r albwm hwnnw.

“[Roedd o’n] rhwystredig uffernol!” meddai Elis. 

“Roedd hi’n braf cael albwm allan o’r diwedd ar ôl nifer o flynyddoedd yn trio sefydlu fy hun fel artist Cymraeg, felly mi ddoth y pandemig ar yr amser gwaetha’ posib! 

“Wedi dweud hynny, mi oni’n benderfynol o geisio cadw mymryn o’r momentwm i fynd yn ystod y cyfnod clo, gan geisio cymryd rhan mewn unrhyw gig rhithiol fysa’n cael ei gynnig.”

Fast forward dwy flynedd, ac mae eleni’n cynnig yr haf cyntaf o berfformio ers tro iddo. Ond dydy’r cerddor ifanc o’r Felinheli heb orffwys ar ei rwyfau ers rhyddhau’r albwm cyntaf, ac mae ganddo ail albwm, Breuddwyd y Ffŵl, i’w ryddhau ddydd Gwener nesaf mewn pryd i wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.  

Ar ben hynny, bu’n aelod o’r grŵp Ciwb, ac mae’n deg dweud felly ei bod hi wedi bod yn gyfnod prysur iddo.

“Yn rhyfedd iawn, yn ystod y cyfnod lle geshi’r mwya o amser rhydd dwi ‘rioed ‘di gael nôl yn 2020, dwi’m yn meddwl neshi sgwennu unrhyw ganeuon newydd. Rhy brysur yn syllu ar y waliau, debyg. 

“Mi oni’n gwbod y bysa gigs Cymraeg yn dychwelyd rhyw ddydd, a mi oni’n gwybod pan bysa’r dydd hwnnw’n dod y byswn i angen dangos fy mod ‘dal i fodoli’ – heb swnio’n rhy ddwys… – yn y byd cerddorol. 

“Penderfynais mai albwm newydd sbon oedd y ffordd orau o gyfleu mod i ‘di bod yn gwneud ‘wbath arall heblaw cynnal quizzes Zoom. Ysgrifennais lond llaw o ganeuon newydd dros gyfnod o 9 mis yn 2021, gan bigo allan y goreuon ar y diwedd, a mynd ati wedyn i drefnu recordio albwm o’r cynnyrch newydd cyn gynted â phosib.”

Mwy o arbrofi

Yr hyn sy’n amlwg iawn wrth wrando ar gynnyrch newydd Elis yw’r modd y mae wedi datblygu fel cerddor. Ar draciau fel ‘Ergyd Arall i’r Co’ a ‘Disgo’r Boogie Bo’, cawn glywed elfennau hollol newydd i’w gerddoriaeth, ond sy’n gweddu’n hollol berffaith i’w arddull.

“Mae o’n albwm llawer mwy cyfoethog na fy albwm cyntaf, 3, o bell ffordd” meddai Elis am Breuddwyd y Ffŵl. 

Mae ‘na sicr lot mwy o arbrofi wedi mynd mewn iddo, gyda defnydd o offerynnau allanol ar ambell drac – llinynnau a brass – genres sy’n wahanol i fy steil arferol – [e.e] disgo a psychadelia – llawer mwy o amrywiaeth steiliau chwarae a sŵn mwy amrwd gan fod y rhan fwyaf o’r albwm wedi’i recordio yn fyw. 

“Er mwyn arbed amser – sy’n eironig o ystyried gymrodd hi 4 mis i’w gwblhau! – bues i’n recordio demo ar gyfer pob trac adref, a oedd yn rhoi digon o gyfle i mi ddod i ‘adnabod y caneuon’ – allai’m coelio mod i ‘di goro defnyddio term mor pretentious – a chael arbrofi gyda synnau’r gitars a’r vocals. 

“Roedd hyn yn golygu fy mod yn gwybod yn union be fyswn i’n hoffi i bob offeryn fod yn chwarae ar bob trac pan ddoth hi’n amser recordio, ond wedi dweud hynny, roeddwn dal yn agored i awgrymiadau’r cerddorion eraill a’r cynhyrchydd yn y stiwdio.”

Beth sydd wrth wraidd y datblygiadau hyn yn ei gerddoriaeth?

“Mae’r dylanwadau mawr a oedd gen i yn ystod recordio’r record gyntaf dal i fodoli – Bowie, The Strokes, The Smiths – ond yn ddiweddar dwi ‘di cael mewn i Steely Dan, Emitt Rhodes, Geraint Jarman, Bob Dylan yn fawr iawn, yn ogystal â nifer o artistiaid cyfoes diweddar, gan ei bod hi’n bwysig cadw bys ar y pulse o be sy’n digwydd heddiw hefyd! 

“Mi fydd fy ffrindiau i gyd yn rolio’u llygadau wrth ddarllen y pwt nesa ‘ma o ystyried faint dwi’n siarad amdanyn nhw bob cyfle ga i, ond mae’r Beatles yn ddylanwad hiwj arnai dal i fod. Er eu bod nhw’n ddylanwad mor enfawr, dwi ‘rioed ‘di ystyried fy nghaenuon yn ‘Beatley’ o gwbl, tan i mi fod wrthi’n recordio ambell drac newydd a sylwi hanner ffordd drwadd mod i’n ripio off un o riffs George Harrison yn llwyr!”

Does dim byd yn teimlo allan o’i le yn yr albwm chwaith, ac mae wedi cadw’n driw i’r un vibe â’r albwm cyntaf. Mae’r lyrics yn dilyn yr un themâu o ran problemau ar lefel Gymreig a rhyngwladol.

Platfform i’r pethau pwysig

Elis yn perfformio yng Ngwobrau’r Selar – Chwefror 2020 lle enillodd y wobr ‘Artist Unigol Gorau 2019’

“Roedd ‘na gân ar yr albwm dwytha’ o’r enw ‘Sgrifen Ar Y Walia’  oedd reit wleidyddol o ran ei thema, tra bod ‘na drac ar yr albwm newydd o’r enw ‘Byw Efo Hi’ sydd yn mynd mewn i lawer mwy o fanylder am bwnc mwy penodol, sef yr argyfwng tai yng Nghymru. 

“Ar ddiwedd y dydd, fel cerddor, rwyt ti’n cael platfform – boed hynny’n radio, teledu, neu ar ffurf gwrandawiadau Spotify – i gael dweud dy ddweud, a mi sylwais ei bod hi efallai yn well ysgrifennu llai am bynciau nonsens dibwys a meddwl mwy am fynegi rhywbeth oedd werth ei ddweud, a all efallai hyd yn oed achosi rhyw fath o newid. 

“Wedi dweud hynny, dwi wrthi’n ysgrifennu cân am Roger Moore ar y funud, felly ella ddim.”

Bydd albwm newydd Elis Derby, Breuddwyd y Ffŵl, yn cael ei ryddhau ar ddydd Gwener yma,  29 Gorffennaf ar label Recordiau Côsh, mewn pryd ar gyfer y Steddfod, lle gallwch chi fwynhau ei gerddoriaeth newydd yn fyw. Mae eisoes modd archebu fersiwn CD yr albwm ar wefan Recordiau Côsh.

Gigs Steddfod Elis Derby

03/08 Gig Cymdeithas yr Iaith

04/08 Caffi Maes B

05/08 Maes B