Mae Gwilym Bowen Rhys wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs mae’n perfformio ynddynt dros yr wythnos nesaf.
Roedd Gwilym, sy’n adnabyddus am gigio’n rheolaidd iawn, yn chwarae nos Wener diwethaf, 26 Chwefror, yn nhafarn Y Pengwern yn Llan Ffestiniog ac yna nos Lun 28 Chwefror yn nhafarn Yr Heliwr yn Nefyn.
Mae’n chwarae 4 gig i gyd i nodi Dydd Gŵyl Dewi, ac yna 4 gig arall dros y pump diwrnod canlynol.
Dyma fanylion llawn y gigs:
26 Chwefror – Y Pengwern, Llan Ffestiniog
28 Chwefror – Yr Heliwr, Nefyd
1 Mawrth – set ar BBC Radio Cymru (9am)
1 Mawrth – strydoedd Wrecsam (12pm)
1 Mawrth – digwyddiad rhithiol Plaid Cymru ifanc (6:30pm)
1 Mawrth – Nant Gwrtheyrn (7pm)
2 Mawrth – Tŷ Newydd, Aberdaron (2pm)
3 Mawrth – Theatr Mwldan, Aberteifi (7:30pm)
4 Mawrth – Y Parlwr, Pontcanna, Caerdydd (7pm)
6 Mawrth – Clwb Hwylio, Caernarfon (7.30pm)
Bydd Gwilym hefyd yn rhyddhau ei albwm newydd, ‘Detholiad o Hen Faledi II’ ar ddydd Gŵyl Dewi. Casgliad o 10 o draciau fydd hwn, sy’n ddilyniant i’r albwm ‘Detholiad o Hen Faledi I’ a ryddhawyd yn 2018. Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar label Recordiau Erwydd.