Mae Dydd Miwsig Cymru, sef y diwrnod i ddathlu cerddoriaeth iaith Gymraeg a gynhelir ddechrau mis Chwefror ers rhai blynyddoedd, wedi cyhoeddi manylion cyfres arbennig o gigs fydd yn digwydd ym mis Mawrth ac Ebrill eleni.
Bydd y daith yn gweld gigs yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, Casnewydd, Abertawe, Aberteifi a Chaernarfon.
Dechreuodd y gyfres nos Wener diwethaf, 4 Mawrth, gyda gig yn Le Pub yng Nhasnewydd gyda HMS Morris, a SYBS yn perfformio.
Dyma fanylion gweddill gigs y gyfres:
18 Mawrth – Pys Melyn, Gwenno Morgan, Bitw – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
25 Mawrth – HMS Morris, Eädyth, Y Dail – Selar, Aberteifi
26 Mawrth – Mellt, Breichiau Hir, Mali Hâf – Bunkhouse, Abertawe
30 Ebrill – Mr, Kim Hon, Tiger Bay – Galeri, Caernarfon