Mae Mr, sef prosiect diweddaraf Mark Roberts gynt o’r Cyrff, Catatonia a’r Ffyrc ymysg grwpiau eraill, wedi cyhoeddi manylion cyfres fer o gigs ddiwedd mis Ebrill.
Mae’r cyntaf o’r rhain ar 16 Ebrill yn y Clwb, Llanrwst – mae’r gig eisoes wedi’i ohirio ddwywaith o ganlyniad i’r pandemig.
Mae’r ddau gig arall ar ddiwedd y mis – y cyntaf ar 29 Ebrill yn Nhŷ Tawe, Abertawe, a’r llall y noson ganlynol, 30 Ebrill, yn y Galeri, Caernarfon.