Mae trefnwyr Pentref Ieuenctid Sioe Amaethyddol Llanelwedd wedi dechrau datgelu arlwy digwyddiadau nos yr ŵyl eleni.
Bydd y Sioe Fawr yn digwydd rhwng 18 a 21 Gorffennaf eleni, ac yn ôl yr arfer bydd digon o adloniant gyda’r hwyr yn y Pentref Ieuenctid.
Y prif atyniad ar y nos Sul (17 Gorffennaf) fydd y DJ Huw Stephens, sydd wastad yn ffefryn yn Llanelwedd.
Bydd yr arlwy yn ystod yr wythnos hefyd yn cynnwys y ddeuawd electronig Roughion a Morgan Elwy.
Lein-yp sydd wedi’i gyhoeddi hyd yma:
Nos Sul – Huw Stephens DJ, Osian Gierke
Nos Lun – Roughion, Katie Owen, A.$.A.P
Nos Fawrth – Dan Morgan DJ, Morgan Elwy,
Mwy o fanylion a thocynnau ar wefan y Pentref Ieuenctid.
Llun: Roughion