Mae cynllun Gorwelion wedi cyhoeddi enwau’r 49 o artistiaid cerddorol o Gymru sydd i dderbyn cyllid o’u cronfa lansio ar gyfer 2022.
Gan rannu £63,000 ymysg yr artistiaid eleni, dyma’r swm mwyaf i’w ddyfarnu gan y cynllun, sy’n bartneriaeth rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, ers ei sefydlu yn 2014.
Mae nifer o artistiaid Cymraeg wedi bod yn llwyddiannus gyda’u ceisiadau eleni gan gynnwys Hana Lili, Kim Hon, Bandicoot, Cerys Hafana, Gwenno Morgan, Mali Hâf, Skylrk, SYBS, Tara Bandito a Tapestri.
Ci Gofod yn barod i lansio
Artist arall sydd wedi derbyn cyllid ac sydd wedi dechrau cyfansoddi yn y Gymraeg ydy Ci Gofod, sef prosiect Jack Thomas Davies o Faesteg.
“Rwy’n falch o gael cefnogaeth gan Gorwelion ar gyfer ryddhau fy EP” meddai Jack.
“Diolch i’r cyllid, gall fy EP gael ei chwblhau gan beirianwyr sain blaenllaw a chreu ‘cylchgrawn’ ar-lein lle gall gwrandawyr ddysgu mwy amdanaf i a fy ngherddoriaeth. Bydd y EP yn cael ei lansio yr haf yma, a bydd yn ychwanegu ffync a neo-soul Gymraeg i grochan y sîn gerddoriaeth Gymreig.”
Ers ei sefydlu wyth mlynedd yn ôl, mae Cronfa Lansio Gorwelion wedi cael ei rhoi i fwy na 250 o artistiaid, o dros 60 o wahanol drefi yng Nghymru, gan wario £273,000 yn ecosystem cerddoriaeth Cymru.
Mae llawer ohonynt wedi cael eu cefnogi yn eu gwaith creadigol, gyda’r gronfa’n eu galluogi i dreulio amser mewn stiwdio, comisiynu ffotograffiaeth a gwaith celf, ar gyfer hyrwyddo, cael offer, cynhyrchu fideos a chostau teithio.
I’r 49 naw o artistiaid sy’n cael cyllid eleni, dyma foment allweddol yn eu taith, a allai gynnwys gwaith datblygu artistiaid, cyhoeddusrwydd a setiau mewn gwyliau.
Amrywiaeth o artistiaid
Ar adeg pan fo’r cyfnodau clo wedi achosi ansicrwydd i gerddoriaeth fyw a rhyddhau cerddoriaeth, mae Cronfa Lansio Gorwelion 2022 yn cyflwyno blwyddyn lwyddiannus o wobrau, gyda £63,000 a mwy o wobrau’n cael eu cynnig i gefnogi gwaith talent newydd o bob cwr o’r wlad ac yn cwmpasu holl sbectrwm y byd cerddorol yng Nghymru.
Mae’r rhai sy’n derbyn y gwobrau’n cynnwys arlwy gref o artistiaid o gymuned MOBO, artistiaid cyffrous yn y byd cerddoriaeth Gymraeg, ac artistiaid newydd sy’n ennill cydnabyddiaeth ac yn magu eu cynulleidfaoedd ar lwyfannau a recordiau.
Cafodd yr artistiaid eu dewis gan banel o unigolion sy’n weithgar yn y maes cerddoriaeth sef Leigh Jones (PRS), Laura Herd (Queens Hall), Helen Weatherhead (BBC 6Music), Gethin Pearson (Cynhyrchydd), Esyllt Williams (DJ Dirty Pop) Rachel K Collier (Cerddor), DJ Jaffa, Lekan (Intricate Management), Kima Otung (Cerddor) Elan Evans (Clwb Ifor Bach), Hollie singer (Adwaith/ Cerddor), Ifan Davies (BBC Radio Cymru/ Sŵnami/ Cerddor) Natalie Jones (Focus Wales) ac Andrew Ogun (Cyngor Celfyddydau Cymru).
Mwy na jyst arian
Mae’r artistiaid llwyddiannus yn derbyn mwy na dim ond cyllid. Drwy gydol mis Chwefror, bydd modd i Artistiaid y Gronfa Lansio gael sesiynau pwrpasol ar-lein, wrth i Gorwelion gynnal cyfres o sgyrsiau cerddoriaeth ar gyngor busnes, marchnata a hyrwyddo, gan gynnwys gwesteion arbenigol.
Bydd Gorwelion hefyd yn dychwelyd i ddigwyddiadau byw y mis yma gyda sioe ‘Dod Adre’ yng Nghlwb Ifor Bach ar gyfer Mace The Great, llysgennad Venue Week, gyda chefnogaeth Juice Menace a Lily Beau.
Mae Gorwelion hefyd yn bwriadu dychwelyd i Wythnos Cymru yn Llundain ym mis Mawrth, ac yna taith o amgylch Lleoliadau Cerddoriaeth Cymru.
Yn ôl Bethan Elfyn, Rheolwr Prosiect Gorwelion, mae’n hollbwysig buddsoddi yn y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru ar hyn o bryd.
“Mae’n bwysicach nag erioed i gysylltu cymuned, i gredu yn yr artistiaid a’u taith ac i roi buddsoddiad yn niwydiant cerddoriaeth Cymru, a hynny yn yr eco-system gyfan o amgylch yr artistiaid – o’r stiwdios, i gynhyrchwyr, labeli, cwmnïau hyrwyddo a mwy” meddai Bethan.
“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae’r prosiectau cerddoriaeth hyn yn datblygu.”
Rhestr lawn o’r 49 o artistiaid a fydd yn derbyn cyllid gan Gronfa Lansio Gorwelion 2022:
- ALICE LOW – CAERDYDD
- ANWAR SIZBAR, CAERDYDD
- AISHA KIGS – CAERDYDD
- ALEKXSANDR, CAERDYDD
- ARTSHAWTY – CAERDYDD
- ASHA JANE – CAERDYDD
- BANDICOOT – ABERTAWE
- THE BUG CLUB – CALDICOT, SIR FYNWY
- CHASING SHADOWS – SIR DDINBYCH
- CELAVI – BANGOR
- CLWB FUZZ – CAERDYDD
- CERYS HAFANA – MACHYNLLETH
- CI GOFOD – MAESTEG
- CUPSOFTE – CAERDYDD
- GWENNO MORGAN – BANGOR
- HANNA LILI – ABERSILI
- HEMES – PONTYPRIDD
- TEDDY HUNTER – CAERDYDD
- JAMES AND THE COLD GUN – CAERDYDD
- K(E)NZ – ABERTAWE
- KINNIGAN – CAERDYDD
- KIM HON – CAERNARFON
- HARRY JOWETT – BRO MORGANNWG
- L E M F R E C K – GWENT
- LLOYDY LEW – TORFAEN
- LUKE RV – CASTELL-NEDD
- MACE THE GREAT – CAERDYDD
- MALAN – CAERNARFON
- MALI HAF – CAERDYDD
- MANTARAYBRYN – CAERDYDD
- MIRARI MORE – CAERDYDD
- NIQUES – CAERDYDD
- PANTA RAY – CAERDYDD
- REBECCA HRN – PORTHCAWL
- ROMAN YASIN – CAERDYDD
- SKYLRK – DYFFRYN NANTLLE
- SOREN ARAUJO – CARDIFF
- SYBS – CASNEWYDD
- SU SANG SONG – CAERDYDD
- SZWE – CAERFYRDDIN
- TARA BANDITO – CAERDYDD
- TAPESTRI – SIR BENFRO/ SIR FON
- THALO – PENYGROES
- WINGER RECORDS – SIR GAERFYRDDIN
- WOBBLI BOI – SIR GAERFYRDDIN
- WYNT – RHONDDA
- VOYA – CAERDYDD
- YAZMEAN – CAERDYDD
- XL LIFE – CAERDYDD