Mae Papur Wal wedi cyhoeddi ffilm fer sy’n dogfennu noson lansiad eu halbwm, ‘Amser Mynd Adra’, nôl ym mis Hydref 2021.
Cynhaliwyd gig lansio albwm cyntaf y triawd yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 22 Hydref gyda chefnogaeth gan Ynys ac Y Dail.
Ffilmiwyd y cyfan mewn dull bwriadol amrwd, a lled ‘bry’ ar y wal’ gan y gwneuthurwr ffilm Sam Stevens sydd hefyd yn aelod o’r band Pypi Slysh.
Mae Papur Wal yn fand sy’n adnabyddus am ddefnyddio’r cyfrwng ffilm ar gyfer hyrwyddo eu cerddoriaeth.
Yn y gorffennol maent wedi cyhoeddi fideos cofiadwy ar gyfer nifer o’u senglau gan gynnwys ‘Yn y Weriniaeth Siec’, ‘Llyn Llawenydd’, ‘Piper Malibu’ ac ‘Arthur’.
Mae’r ffilm hanner awr o’r lansiad yn cynnwys peth o’r paratoadau cyn y gig, y mwyafrif o set y band ar y llwyfan, a sgwrs gyda’r aelodau ar ôl perfformio.
Buddsoddwch hanner awr fach yn hon gyfeillion…