Mae’r ail fideo o brosiect sy’n cael ei redeg ar y cyd gan Lŵp, S4C ac asiantaeth hyrwyddo cerddoriaeth PYST wedi cael ei gyhoeddi.
Fideo ar gyfer y gân ‘Marwolaeth’ gan Dead Method ydy’r fideo diweddaraf i’w gynhyrchu diolch i’r Gronfa Fideos Cerddorol.
Mae Dead Method yn seren bop i’r oes newydd. Mae ei gerddoriaeth yn plymio’n ddwfn i ddyfnderoedd pop electro amgen gydag ymyl dywyll wrth archwilio bywyd ei hun gyda gonestrwydd sobreiddiol a dawn farddonol.
“Cafodd y gân ei hysgrifennu ychydig fisoedd ar ôl cwblhau gweddill fy albwm a gwasanaethodd fel darn olaf y pos” meddai Lloyd Best, neu Dead Method, am y trac.
“Roeddwn i’n galaru yn ystod y broses ysgrifennu gan ein bod ni wedi colli aelodau o’r teulu. Dyma oedd fy ffordd o archwilio fy ngalar ac anrhydeddu eu hatgofion. Dewisais i ysgrifennu’r gân yn Gymraeg oherwydd ei bod yn adlewyrchu diwylliant fy nheulu.”
Fideo animeiddiedig cyntaf
Dyma’r fideo animeiddiedig cyntaf i Lŵp a PYST gyfrannu tuag ato.
Fe’i hanimeiddiwyd gan Molly Allen, artist o Gaerdydd sy’n cyfuno cynlluniau lliw neon gydag esthetig D.I.Y. i greu delweddau beiddgar, seicedelig, wedi’u hysbrydoli gan bync sy’n archwilio themâu a mynegiant hunaniaeth queer.
“Roedd yn gymaint o bleser gweithio ar y prosiect hwn” meddai Molly.
“Oherwydd bod Lloyd wedi dod ataf gyda disgrifiad mor glir a manwl o ba siâp yr oedd am i’r fideo ei gymryd, fe wnaeth i’r broses animeiddio deimlo mor organig; Roeddwn yn gallu canolbwyntio’n wirioneddol ar gyflawni ei weledigaeth wych yn gywir yn ogystal â chyfleu’r neges ingol y tu ôl i’r gân.”
Mae’n ymddangos fod y pâr yn dîm berffaith felly, ac mae Lloyd yn cadarnhau hynny.
“Esboniais fy nghysyniad i Molly ac roedd hi’n gallu creu fersiwn animeiddiedig hardd o’r weledigaeth oedd yn fy meddwl” meddai’r cerddor.
“Y canlyniad yw bod popeth roeddwn i eisiau ei fynegi wedi’i ddal trwy lens artistig Molly. Roeddwn i eisiau creu cynrychiolaeth o sut mai galar, yn aml, yw’r holl gariad na chawsoch chi ei fynegi pan oedden nhw yma.”
Dilyniant i fideo Sachasom
Dangoswyd y fideo am y tro cyntaf wythnos diwethaf ar God Is In The TV ac mae bellach yn fyw ar sianel YouTube Dead Method.
Dyma’r ail fideo o’r prosiect newydd gan y bartneriaeth ac mae’n ddilyniant i’r fideo ‘Agor’ gan Sachasom a gynhyrchwyd gan Pypi Slysh (Sam Stevens a Sion Teifi Rees) ac a gyhoeddwyd ganol mis Gorffennaf.