Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion lein-yp Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Tregaron fis Awst.
Ar ôl gorfod gohirio hanner nosweithiau Maes B yn Eisteddfod Llanrwst oherwydd tywydd garw yn 2019, ac yna canslo digwyddiad 2020 a 2021 yn gyfan gwbl oherwydd y pandemig, bydd croeso mawr i’r ffaith bod Maes B yn ei ôl yn 2022.
Bydd croeso mawr hefyd i’r newyddion fod y digwyddiad yn fwy nag erioed eleni gyda thri llwyfan – dau ohonynt ar gyfer bandiau byw, a’r llall ar gyfer DJs fydd yn cadw’r parti i fynd nes oriau mân y bore.
Nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod ydy uchafbwynt Maes B fel arfer, a’r grŵp sy’n cloi’r wythnos ydy Adwaith, y triawd o Gaerfyrddin sydd wedi gweld llwyddiant ysgubol gyda’u senglau diweddaraf, ‘Eto’ a ‘Wedi Blino’, ac sy’n paratoi i ryddhau eu hail albwm, ‘Bato Mato’ ym mis Gorffennaf.
Bydd dau fand poblogaidd arall, sef Mellt a Hyll yn helpu cloi’r noson olaf yn ogystal â Stafell Fyw a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau’r Eisteddfod llynedd. Bydd yr ail lwyfan ar y nos Sadwrn olaf yn croesawu artistiaid sydd wedi bod yn arbrofi gyda phop yn eu steiliau amrywiol, sef HMS Morris, Sybs a Pys Melyn.
Nos Fercher fydd gig cyntaf Maes B yn Nhregaron, a’r grŵp poblogaidd o Ogledd Cymru, Gwilym fydd yn hedleinio’r noson honno. Hefyd yn perfformio ar y noson agoriadol fydd Sŵnami a Los Blancos ar yr ail lwyfan. Bydd Papur Wal, a gipiodd sawl gwobr gan gynnwys ‘Albwm y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Selar eleni yn chwarae ar y nos Fercher hefyd, yn ogystal â’r band indie bachog, Dienw sy’n chwarae Maes B am y tro cyntaf eleni.
Breichiau Hir fydd yn cloi’r prif lwyfan ar y nos Iau, ar noson sy’n llawn o gerddoriaeth trwm. Bydd Chroma, Kim Hon ac un o fandiau eraill Brwydr y Bandiau llynedd, Tiger Bay, hefyd yn perfformio ar Lwyfan 1 y noson honno.
Ar yr ail lwyfan ar y nos Iau bydd dathliad o’r twf diweddar mewn hip-hop Cymraeg gyda 3 Hwr Doeth, Lloyd + Dom James, ac enillydd Brwydr y Bandiau llynedd, skyrk.
Pop ydy’r arlwy ar y nos Wener gydag Eden, yn cloi’r noson ar y prif lwyfan, a hynny’n rhyfeddol yn eu perfformiad cyntaf ym Maes B. Hefyd ar Lwyfan 1 y noson honno fydd Tara Bandito, Eädyth a Mali Haf.
Y Cledrau fydd prif atyniad yr ail lwyfan ar y nos Wener, gyda chefnogaeth gan Elis Derby a Cai, oedd yn un arall o stabal cystadleuaeth Brwydr y Bandiau’r Eisteddfod llynedd.
Prif drefnydd Maes B ydy Guto Brychan, a dywed ei fod yn edrych ymlaen at agor drysau’r digwyddiad unwaith eto i gynulleidfa hen a newydd.
“Mae wedi bod yn amser hir ers i ni allu dod ynghyd i fwynhau rhai o artistiaid gorau Cymru, a gyda’r line up eleni’n edrych i’r dyfodol – ni’n edrych ymlaen at yr arlwy” meddai Guto.
Bydd cyhoeddiad pellach ynglŷn â’r DJs fydd yn cymryd rhan yn Maes B eleni’n fuan.
Mae modd archebu tocynnau 4 diwrnod nawr am £120.
Dyma’r leinyp yn llawn:
Llwyfan 1 nos Fercher: Gwilym / Swnami / Alffa / Hana Lili
Llwyfan 2 nos Fercher: Los Blancos / Papur Wal / Dienw
Llwyfan 1 nos Iau: Breichiau Hir / CHROMA / Kim Hon / Tiger Bay
Llwyfan 2 nos Iau: 3 Hwr Doeth / Lloyd + Dom James / skylrk
Llwyfan 1 nos Wener: Eden / Tara Bandito / Eädyth / Mali Haf
Llwyfan 2 nos Wener: Y Cledrau / Elis Derby / Cai
Llwyfan 1 nos Sadwrn: Adwaith / Mellt / Hyll / Stafell Fyw ac Enillwyr Brwydr y Bandiau 2022
Llwyfan 2 nos Sadwrn: HMS Morris / SYBS / Pys Melyn