Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid olaf fydd yn ymuno â lein-yp gŵyl Llais 2022.
Gŵyl gelfyddydol rhyngwladol y Ganolfan ydy Llais, ac mae’n dychwelyd i Gaerdydd eleni ar 26-30 Hydref 2022 gyda chyfres eclectig o gyfranwyr rhyngwladol a rhaglen gyhoeddus rhad ac am ddim.
Efallai mai’r enw amlycaf sydd wedi’i hychwanegu at yr arlwy fel rhan o’r cyhoeddiad diweddaraf ydy Gwenno, sydd wrth gwrs wedi ei henwebu ar gyfer Gwobr Mercury eleni.
Mae Gwenno’n ymuno â’r lein-yp sydd hefyd cynnwys perfformiadau gan Death Songbook, sy’n cynnwys fersiynau newydd sensitif o ganeuon am farwolaeth gan Brett Anderson o Suede, Charles Hazlewood, a Paraorchestra.
Bydd y gitarydd a chanwr-gyfansoddwr o Mali, Vieux Farka Touré, yn ymuno â Les Amazones d’Afrique (sydd wedi’u cyhoeddi eisoes), grym creadigol o bob rhan o’r diaspora Affricanaidd, i greu cyngerdd llawn cerddoriaeth o Orllewin Affrica.
Bydd llwyfan Glanfa y Ganolfan yn cynnal tri diwrnod o gerddoriaeth am ddim sy’n hollol agored i’r cyhoedd. Gan ddechrau ar y nos Wener, bydd Race Council Cymru yn curadu noson o artistiaid Du talentog gan gynnwys y gymyndod hip-hop o Gaerdydd Afro Cluster a’r Dabs Calypso Trio.
Bydd lein-yp enaid y dydd Sadwrn yn cynnwys llais llyfn y seren newydd PRITT, a Nia Wyn sydd wedi cefnogi Paul Weller yn y gorffennol. Ac ar ddydd Sul, bydd y label Cymraeg o’r gogledd Recordiau Noddfa yn curadu ac yn llwyfannu perfformiadau sy’n cynnwys Melin Melyn a 3 Hwr Doeth.
Hanes cerddorol caerdydd
Trwy gydol yr ŵyl, bydd yr arddangosfa City of Sound yn dangos cipolwg o eitemau gan archif Cardiff Music History, gydag eitemau fel posteri a thocynnau’n dod yn fyw drwy gyfweliadau â phobl o’r sîn gerddorol yng Nghaerdydd. Mae uchafbwyntiau eraill y rhaglen am ddim yn cynnwys trafodaeth ar y frwydr dros leoliadau cerddoriaeth annibynnol, cyfleoedd i bobl ifanc gael profiadau creadigol ymarferol, a pherfformiad gan Kara Jackson (cyn-National Youth Poet Laureate yn yr Unol Daliaethau).
Mae’r enwau diweddaraf i’w cyhoeddi’n ymuno â llu o artistiaid sydd eisoes wedi’u datgelu. Mae rhain yn cynnwys yr enwog John Cale, a berfformiodd yng Ngŵyl y Llais gyntaf yn 2016.
Mae’n dychwelyd eleni yn y flwyddyn mae’n dathlu ei ben-blwydd yn 80 oed i berfformio gyda Sinfonia Cymru a gwesteion arbennig, ac i sgwrsio am ei fywyd a’i yrfa. Mae’r prif artistiaid Cymreig eraill yn cynnwys audiobooks a Cate Le Bon.
Bydd y cymundod pync-roc eiconig o Rwsia, Pussy Riot, yn dod â’u sioe arobryn ‘Riot Days’ i’r ŵyl, tra bydd yr artist grime arloesol D Double E yn seren Stiwdio Weston y Ganolfan gyda chefnogaeth rhai o’r artistiaid newydd gorau o Gymru.
Hefyd yn ymddangos fydd y pianydd jazz chwedlonol o Dde Affrica Abdullah Ibrahim, rocwyr gwerin indie o Texas, Midlake, y band roc Saesneg black midi, y gantores Keeley Forsyth, y band wyth darn arbrofol o Lundain caroline a’r grŵp seic-gwerin Tara Clerkin Trio.
Dechrau gyda’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig
Bydd yr ŵyl yn dechrau eleni ar ddydd Mercher 26 Hydref gyda seremoni’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, sydd wrth gwrs yn un o uchafbwyntiau’r calendr cerddoriaeth Cymreig blynyddol.
Cynhaliwyd yr Ŵyl y Llais wreiddiol yn 2016 a 2018. Yn 2020, cyhoeddodd Canolfan Mileniwm Cymru ei bwriad i wneud yr ŵyl yn flynyddol, ac er i ŵyl y flwyddyn honno gael ei chanslo, ym mis Tachwedd 2021 fe ddychwelodd gydag 20 o gyfranwyr o bob cwr o Gymru a’r byd.