Mae trefnwyr yr ŵyl showcase gerddoriaeth yn Wrecsam, FOCUS Wales, wedi cyhoeddi’r don gyntaf o enwau artistiaid fydd yn perfformio yno yn 2022.
Ar ôl dwy flynedd o orfod addasu i gynnal digwyddiadau rhithiol, ac yna gŵyl ar ddyddiad gwahanol yn yr hydref llynedd, bydd FOCUS Wales yn dychwelyd i’w slot traddodiadol ym mis Mai eleni.
Cyhoeddwyd eisoes mai 5 – 7 Mai fydd dyddiad yr ŵyl.
Bydd FOCUS Wales yn gweld dros 250 o berfformwyr o Gymru a phedwar ban byd yn perfformio yn Wrecsam dros y penwythnos, ac mae’r trefnwyr wedi datgelu enwau’r 50 artist cyntaf a fydd yn chwarae yno.
Enwau mawr
Mae’r artistiaid cyntaf i’w henwi’n cynnwys nifer o enwau mawr fydd yn siŵr o ddod â dŵr i ddannedd selogion FOCUS Wales. Mae rhain yn cynnwys:
Self Esteem – sydd wedi cyrraedd brig bron pob rhestr Albwm y Flwyddyn yn 2021, ennill Artist y Flwyddyn BBC Introducing ac, erbyn hyn, wedi’u henwebu ar gyfer Brit Awards 2022. Dyma fydd ymddangosiad cyntaf Self Esteem yn Wrecsam, gan berfformio fel y prif fand yn Llwyn Isaf, y babell fawr awyr agored, ar ddydd Gwener 6 Mai.
Echo & The Bunnymen – un o fandiau mwyaf dylanwadol cerddoriaeth gyfoes y DU fydd y prif fand ar yr un llwyfan ar ddydd Sadwrn 7 Mai.
Goat Girl – y band ôl-bync sy’n teithio’n dilyn llwyddiant cyffredinol eu halbwm, ‘On All Fours’, yn 2021.
Gwenno – efallai un o’r artistiaid amlycaf a mwyaf llwyddiannus o Gymru dros y blynyddoedd diwethaf.
Crawlers – grŵp roc amgen y disgwylir pethau mawr ganddyn nhw.
Balimaya Project – casgliad cyffrous o 16 o offerynwyr sy’n cyfuno cerddoriaeth draddodiadol Gorllewin Affrica a jazz mewn ffordd unigryw, gyfoes.
Artistiaid iaith Gymraeg a mwy
Mae’r rhestr gychwynnol o artistiaid hefyd yn cynnwys enwau cyfarwydd iawn i unrhyw un sy’n dilyn y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes – Georgia Ruth, Adwaith, Kizzy Crawford, Bandicoot a Sister Wives.
Rhai o’r artistiaid eraill fydd yn perfformio ydy Pip Blo, Henge, The Royston Club, Honeyglaze, The Besnard Lakes, Peaness, John Bramwell, Grove, Mace The Great, Teke::Teke, XL Life, Super Duty Tough Work, Seazoo, ac Evrah Rose.
Mae rhestr lawn o’r artistiaid sydd wedi’u cyhoeddi ar wefan FOCUS Wales a rhain yn cynnwys artistiaid o Ganada, Mecsico, Sweden, a’r Iseldiroedd.
Yn ôl y trefnwyr byd 250 o artistiaid yn perfformio yng ngŵyl 2022 i gyd.
Sgyrsiau diwydiant hefyd
FOCUS Wales ydy digwyddiad mwyaf y diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru, gyda thridiau o baneli, prif anerchiadau a chyngor gan y diwydiant.
Bydd yr ŵyl yn gweld dros 400 o weithwyr proffesiynol y diwydiant cerddoriaeth yn tyrru i Wrecsam o bedwar ban byd.
Mae’r trefnwyr hefyd wedi cyhoeddi enwau’r siaradwyr cyntaf sy’n cymryd rhan ac mae rhain yn cynnwys Lauren Down (Gŵyl End of The Road), Henca Maduro (New Skool Rules, Yr Iseldiroedd), Cils Williams (Asiantaeth ATC Live), Jude Rogers (The Guardian), Jessie Atkinson (Gigwise), Ben Ryles (DHP Family), Ian White (Asiantaeth Outer/most, UDA), ynghyd â chynrychiolwyr Sefydliad PRS, AIM, PPL, a Chyngor y Celfyddydau.
Mae modd archebu tocynnau ar gyfer yr wŷl ar wefan FOCUS Wales nawr.