Mae trefnwyr Caffi Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion yr arlwy fydd ganddynt ar faes y Brifwyl yn Nhregaron eleni
Bydd y perfformiadau yn y tîpî yn dechrau ar ddydd Sadwrn cyntaf yr Eisteddfod, 30 Gorffennaf, ac yn rhedeg drwy gydol yr wythnos nes dydd Sadwrn 6 Awst.
Mae’r sesiynau’n amrywiol ac yn cynnwys sgyrsiau, comedi, cerddoriaeth, DJs, a hyd yn oed rave!
Bydd y sgyrsiau’n bennaf yn ymwneud â cherddoriaeth, ond efallai o safbwynt ychydig yn wahanol i’r hyn sy’n cael ei drafod yn aml. Un esiampl ydy’r sgwrs ‘Iechyd Meddwl a Pherfformio’ a gynhelir gan meddwl.org ar y dydd Llun, ac un ‘Y Sin Roc Gymraeg: Cynhwysol?’ ar y dydd Mercher.
Bydd Y Selar yn cynnal sgwrs am fandiau ac artistiaid sy’n cael eu cysylltu â Phrifysgol Aberystwyth ar y dydd Mawrth, wrth i’r Brifysgol ddathlu pen-blwydd yn 150 oed eleni.
Mae llwyth o berfformiadau cerddorol yn ystod yr wythnos gyda rhai o uchafbwyntiau hanner cyntaf yr wythnos yn cynnwys Parisa Fouladi ar y dydd Sadwrn cyntaf, Morgan Elwy ddydd Sul, Dienw ddydd Llun a Mellt ddydd Mawrth.
Bydd Chroma ac enillydd Brwydr y Bandiau llynedd, skylrk. yn perfformio ddydd Mercher, Mared Williams ddydd Iau, Bwncath a Gwilym ddydd Gwener ac Alffa ac Y Cledrau ar y dydd Sadwrn olaf.
Un arall o uchafbwyntiau ac efallai digwyddiad mwyaf dirdynnol yr wythnos fydd sesiwn dynged i Dyfrig Topper, a fu farw’n ddiweddar, ar y dydd Gwener.
Arlwy gerddorol Caffi Maes B 2022:
Sadwrn 30/07/22 – Rave Dadeni, Paris Fouladi, Y Pic-Tôns
Sul 31/07/22 – Morgan Elwy, Hywel Pitts, Bwca
Llun 01/08/22 – Dienw, Mari Mathias, Tesni Hughes, Dafydd Hedd
Mawrth 02/08/22 – Disgo Tawel yr Urdd, Mellt, Eädyth + Izzy Rabey, Y Dail, Sera, Sgwrs Bandiau Prifysgol Aberystwyth 150
Mercher 03/08/22 – Chroma, skylrk., Cai, Izzy Rabey, Sgwrs Y Sin Roc Gymraeg: Cynhwysol?
Iau 04/08/22 – DJs Hansh, Mared Williams, Hana Lili, Elis Derby, Hywel Pitts
Gwener 05/08/22 – Kathod, Teyrnged Dyfrig Topper, Bwncath, Gwilym, Lewys, Lloyd Steele gyda Iestyn Wyn
Sadwrn 06/08/22 – Y Pump x Eädyth x Lewys, Alffa, Sybs, Y Cledrau