Ma gŵyl flynyddol Sesiwn Fawr Dolgellau wedi cyhoeddi manylion cyntaf y digwyddiad eleni.
Fel cymaint o ddigwyddiadau eraill, ni fu modd cynnal yr ŵyl yn ei ffurf arferol ar strydoedd Dolgellau dros y ddwy flynedd ddiwethaf o ganlyniad i’r pandemig, a bu’n rhaid setlo am fersiwn rhithiol i lenwi’r bwlch.
Er hynny, mae’n trefnwyr yn gobeithio bydd yr ŵyl yn dychwelyd yn y cnawd eleni wrth iddynt ddathlu 30 blynedd ers sefydlu Sesiwn Fawr Dolgellau.
Penwythnos 15-17 Gorffennaf fydd y dyddiad ar gyfer yr ŵyl, gydag addewid am fanylion lein-yp a thocynnau’n fuan.