Cyhoeddi manylion Gŵyl Ara Deg

Mae trefnwyr Gŵyl Ara Deg ym Methesda wedi cyhoeddi manylion y digwyddiad cerddorol eleni.

Cynhelir yr ŵyl rhwng 25 a 28 Awst yn Neuadd Ogwen, Bethesda.

Mae nifer o enwau artistiaid fydd yn perfformio wedi’u datgelu hefyd a rhain yn cynnwys ​​BCUC, Adwaith, This Is The Kit, Ryley Walker, Gruff Rhys, Troupe Djéliguinet, Snapped Ankles a La Perla. Yn ôl y trefnwyr bydd mwy o artistiaid yn cael eu cyhoeddi’n fuan.

Mae tocynnau ‘Cyntaf i’r felin’ yr ŵyl bellach ar werth hefyd am £65 ar wefan Neuadd Ogwen