Cyhoeddi manylion Gŵyl Canol Dre

Mae trefnwyr Gŵyl Canol Dre yng Nghaerfyrddin wedi cyhoeddi bydd y digwyddiad yn ôl eleni, gyda lein-yp cryf o artistiaid cerddorol yn chwarae ar brif lwyfan perfformio’r ŵyl. 

Sefydlwyd Gŵyl Canol Dre fan Fenter Iaith Gorllewin Sir Gâr yn 2018 fel gŵyl Gymraeg oedd yn cael ei chynnal yng nghanol tref Caerfyrddin.

Cynhaliwyd yr ŵyl y flwyddyn honno, a’r un ganlynol yn 2019, ar Barc Myrddin yng nghanol tref hyna’ Cymru.

Ers hynny, fel cymaint o ddigwyddiadau tebyg, mae’r ŵyl wedi bod a’r stop oherwydd y pandemig. 

Ond, mae’r ŵyl deuluol yn ôl yn ei hanterth eleni, ac yn cael ei chynnal yn ei lleoliad arferol ar ddydd Sadwrn 9 Gorffennaf gyda gweithgareddau amrywiol trwy gydol y dydd. Mae’r atyniadau’n cynnwys sesiynau chwaraeon, gweithgareddau i’r plant, sesiynau llenyddiaeth, gweithdai, cwis a hyd yn oed sesiwn arddio.

Llwyfan perfformio

Un o’r prif atyniadau ydy’r prif lwyfan perfformio ac mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi enwau’r artistiaid cerddorol fydd yn cymryd rhan ar hwn eleni.

Mae’r enwau’n cynnwys Mari Mathias, Pwdin Reis, 50 Shêds o Lleucu Llwyd, Eädyth, Los Blancos, Al Lewis a band Cymraeg mwyaf Cymru, Candelas, yn cloi y diwrnod. 

Mae mynediad i’r ŵyl yn rhad ac am ddim, ac mae modd gweld rhaglen lawn y digwyddiad ar gyfryngau cymdeithasol Gŵyl Canol Dre. 

Llun: Candelas yn perfformio yng Ngwyl Canol Dre 2019