Mae trefnwyr y WobrGerddoriaeith Gymreig wedi cyhoeddi’r recordiau hir sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y wobr eleni.
Mae pump o albyms Cymraeg ymysg y 15 olaf sydd â chyfle i gipio’r teitl ar gyfer 2022.
Bydd enw’r enillydd yn cael ei ddatgelu mewn seremoni arbennig yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 26 Hydref.
Cynhelir y seremoni y tro hwn fel rhan o ŵyl Llais, a bydd y cyflwynydd radio Siân Eleri’n arwain y noson.
Pum o’r pymtheg
Y pump albwm Cymraeg sydd wedi cyrraedd y rhestr eleni ydy ail albwm Adwaith, Bato Mato; albwm cyntaf Breichiau Hir, Hir Oes i’r Cof; Yn Rio gan Carwyn Ellis & Rio 18 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC; albwm cyntaf Papur Wal, Amser Mynd Adra; a chasgliad blwyddyn o senglau Sywel Nyw, Deuddeg.
Mae recordiau hir sawl artist arall sydd wedi canu’n y Gymraeg ar y rhestr hefyd gan gynnwys Cate Le Bon, Danielle Lewis, Gwenno, Dead Method a Lemfreck.
Sefydlwyd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011 gan yr hyrwyddwr cerddoriaeth John Rostron a’r cyflwynydd radio Huw Stephens a dros y blynyddoedd ers hynny mae wedi datblygu i fod yn un o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol y calendr cerddoriaeth yng Nghymru.
Mae unrhyw albwm sydd wedi’i ryddhau gan artist Cymreig yn gymwys ar gyfer y wobr, ac fel arfer mae panel o feirniaid sy’n ymwneud â’r diwydiant yn dewis enillydd o’r rhestr hir sy’n cael ei lunio gan reithgor o bobl sy’n ymwneud â cherddoriaeth yng Nghymru.
Enillydd y wobr gyntaf yn 2011 oedd Gruff Rhys gyda’i albwm ‘Hotel Shampoo’ ac mae’r enillwyr ers hynny’n cynnwys Georgia Ruth, Gwenno, Meilyr Jones, The Gentle Good ac Adwaith. Y cerddor a chynhyrchydd electronig o Rhuddlan, Kelly Lee Owens oedd enillydd y wobr llynedd gyda’r albwm ‘Inner Song’.
Rhestr fawr lawn y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2022
- Bato Mato – Adwaith
- Is It Light Where You Are – Art School Girlfriend
- Hir Oes i’r Cof – Breichiau Hir
- Still – Bryde
- Backhand Deals – Buzzard Buzzard Buzzard
- Yn Rio – Carwyn Ellis & Rio 18 gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC
- Pompeii – Cate Le Bon
- Dreaming in Slow Motion – Danielle Lewis
- Future Femme – Dead Method
- Shaboo Strikes Bach – Don Leisure
- Tresor – Gwenno
- The Pursuit – Lemfresk
- The Ultra Vivid Lament – Manic Street Preachers
- Amser Mynd Adra – Papur Wal
- Deuddeg – Sywel Nyw