Mae rhestrau byr cyntaf Gwobrau’r Selar eleni wedi cael eu cyhoeddi heno, yn fyw BBC Radio Cymru.
Cyhoeddwyd dwy o’r rhestrau byr sef ‘Cân Orau 2021’ a ‘Gwaith Celf Gorau 2021’ ar raglen Lisa Gwilym.
Roedd pleidlais gyhoeddus Gwobrau’r Selar yn agored am bythefnos ar ddechrau mis Ionawr, gyda chyfle i unrhyw un bleidleisio dros yr enwau amrywiol oedd ar y rhestrau hir eleni.
Nawr, gyda’r bleidlais wedi cau, mae’r rhestrau byr wedi eu dewis gan y ffans ac am gael eu rhannu dros y bythefnos nesaf cyn datgelu’r enillwyr ar Radio Cymru yn ystod wythnos 14-18 Chwefror.
Pwy sydd ar restr fer categori Cân Orau felly? Dyma nhw:
Cân Orau 2021 (Noddir gan PRS for Music)
10/10 – Sywel Nyw a Lauren Connelly
Theatr – Sŵnami
Llyn Llawenydd – Papur Wal
Niwl – Dafydd Hedd / Endaf / Mike RP
A beth am y ‘Gwaith Celf Gorau’?
Gwaith Celf Gorau 2021 (Noddir gan Y Lolfa)
Hir Oes i’r Cof – Breichiau Hir
Cashews Blasus – Y Cledrau
Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig – Los Blancos
Amser Mynd Adra – Papur Wal
Llongyfarchiadau mawr i bawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn y ddau getegori.
Bydd dwy restr fer arall, sef ‘Artist Unigol Gorau 2021’ a ‘Band neu Artist Newydd Gorau 2021’ yn cael eu datgelu ar raglen Huw Stephens nos fory – cofiwch diwnio mewn.
Dim digwyddiad byw eleni
Cyhoeddwyd eisoes na fydd digwyddiad byw Gwobrau’r Selar am yr ail flwyddyn yn olynol eleni oherwydd ansicrwydd y pandemig, felly bydd Y Selar unwaith eto’n cyd-weithio gyda BBC Radio Cymru i efelychu’r cyhoeddiadau llynedd.
Mae rhestrau byr 9 o’r categorïau wedi eu dewis gan y cyhoedd trwy’r bleidlais, gyda dwy wobr arall, sef y ‘Wobr Cyfraniad Arbennig’ a ‘Gwobr 2021’, yn cael eu dyfarnu gan dîm golygyddol Y Selar.