Cyhoeddi rhestrau byr Fideo Gorau a Record Hir Orau 2021

Mae rhagor o restrau byr Gwobrau’r Selar wedi’u datgelu’n gynharach heno ar raglen  BBC Radio Cymru Lisa Gwilym.

Wythnos diwethaf fe gyhoeddwyd yr enwau oedd wedi cyrraedd rhestrau byr cyntaf y Gwobrau ar raglen Lisa Gwilym, sef categorïau ‘Cân Orau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’.

Heno fe ddatgelodd Lisa pa bedwar enw sydd wedi dod i frig y bleidlais gyhoeddus yn y categorïau ‘Fideo Gorau 2021’ a ‘Record Hir Orau 2021’.

Rydym hefyd yn gwybod pwy sydd ar restrau byr categorïau ‘Artist Unigol Gorau’ a ‘Band neu Artist Newydd Gorau’ yn dilyn cyhoeddiad ar raglen BBC Radio Cymru Huw Stephens wythnos diwethaf.

Heb oedi ymhellach felly, dyma nhw:

Fideo Gorau 2021 (noddir gan S4C)

Arthur – Papur Wal

Hei Be Sy – Y Cledrau

Theatr – Sŵnami

Llyn Llawenydd – Papur Wal

 

Record Hir Orau 2021

Cashews Blasus – Y Cledrau

Amser Mynd Adra – Papur Wal

Hir Oes i’r Cof – Breichiau Hir

Da ni ar yr un Lôn – Dylan Morris

 

Bydd Ifan Davies yn datgelu’r rhestau byr olaf wrth iddo gadw sedd Huw Stephens yn gynnes ar Radio Cymru nos fory.

Bydd yr enillwyr i gyd yn cael eu cyhoeddi mewn rhaglenni arbennig gan Lisa a Huw ar Radio Cymru nos Fercher a nos Iau nesaf, 16 a 17 Chwefror.