Cyhoeddi rhifyn Haf 2022 Y Selar

Mae rhifyn newydd sbon o gylchgrawn cerddoriaeth Gymraeg gyfoes Y Selar allan ac yn cael ei ddosbarthu i’r mannau arferol ynghyd a’r fersiwn digidol ar-lein. 

Yr artistiaid hip-hop Sage Todz, Dom James a Lloydy Lew sydd i’w gweld ar glawr y rhifyn newydd o’r cylchgrawn ynghyd â’r gyflwynwraig, a chyfrannwr newydd Y Selar, Mirain Iwerydd. 

Yn y rhifyn newydd mae darn arbennig gan Mirain yn trafod y chwyldro hip-hop Cymraeg diweddaraf, gan adlewyrchu hefyd ar sut mae hyn wedi datblygu law yn llaw gyda’r twf diweddar mewn artistiaid Cymraeg o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli. Mae’n ddarn treiddgar sy’n trafod amrywiaeth a chynrychiolaeth yn y sin wrth i Mirain sgwrsio gyda’r artistiaid rap Izzy Rabey a skylrk. i gasglu eu barn hefyd. 

Mae’r rhifyn newydd hefyd yn cynnwys cyfweliad gydag Adwaith gan Lois Gwenllian wrth i’r grŵp o Gaerfyrddin ryddhau eu hail albwm, ‘Bato Mato’. Mae Tegwen Bruce-Deans hefyd wedi bod yn sgwrsio gyda Sŵnami wrth iddynt hwythau baratoi i ryddhau eu hail albwm, ‘Sŵnamii’. 

Yn y rhifyn newydd hefyd mae colofn arbennig gan Mirain Iwerydd, Sgwrs Sydyn gydag Elis Derby, cyflwyniad i artistiaid Brwydr y Bandiau eleni ac adolygiadau o’r recordiau Cymraeg diweddaraf.

Mae’r cylchgrawn yn cael ei ddosbarthu’n helaeth ledled y wlad mewn ysgolion uwchradd, siopau llyfrau Cymraeg, lleoliadau digwyddiadau amrywiol a trwy law’r mentrau iaith. Mae hefyd modd darllen y fersiwn digidol ar-lein ar ffurf PDF isod, neu trwy raglen Issuu!