Cyhoeddi ton cyntaf o enwau Sŵn

Mae Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi ton gyntaf o enwau’r artistiaid fydd yn perfformio yno eleni. 

Cynhelir yr ŵyl ar benwythnos 21-23 Hydref eleni, a bydd llwyth o artistiaid cerddorol cyfoes yn perfformio mewn lleoliadau amrywiol o gwmpas y brifddinas. Dyma fydd y tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal yn llawn ers 2019 o ganlyniad i’r pandemig. 

Bydd yr ŵyl yn agor gyda noson arbennig yn y Tramshed ar nos Wener 21 Hydref – BC Camplight, Lime Garden, Panic Shack a Prima Queen fydd yn chwarae ar y noson honno. 

Mae enwau 78 o artistiaid sy’n perfformio wedi eu datgelu yn y  don gyntaf yma, a rhain yn cynnwys nifer o fandiau Cymraeg. Ymysg artistiaid y dydd Sadwrn mae Breichiau Hir, Eädyth ac Izzy Rabey, HMS Morris a Los Blancos. 

Mae digon i ddenu dŵr i’r dannedd ar y dydd Sul hefyd a’r lein-yp yn cynnwys y bandiau Cymraeg Adwaith a Mellt, ynghyd ag enwau Cymreig cyfarwydd eraill fel Ahgeebe, Lemfresk, Minas a Sweet Baboo. 

Mae disgwyl i dros 120 o artistiaid berfformio yn yr ŵyl eleni i gyd ac mae’r tocynnau ar gael i’w prynu nawr