Cyhoeddi ton ddiweddaraf o artistiaid Sŵn 2022

Mae trefnwyr Gŵyl Sŵn yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi enwau ton ddiweddaraf o artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl aml-leoliad eleni. 

Cynhelir yr ŵyl ar benwythnos 21-23 Hydref a bydd llwyth o artistiaid cerddorol o bob rhan o’r byd yn perfformio ledled y ddinas dros y penwythnos. 

Ym mis Mehefin fe gyhoeddodd y trefnwyr enwau’r 78 artist a band cyntaf fyddai’n perfformio yn y digwyddiad eleni, ac maen nhw bellach wedi ychwanegu at yr arlwy wrth gyhoeddi ton arall o enwau perfformwyr. 

O ran artistiaid Cymraeg yn benodol, mae’r rhestr ddiweddaraf o berfformwyr yn cynnwys Omaloma, Sŵnami, Greta Isaac a Hana Lili.

Mae hyn yn ychwanegol at yr artistiaid Cymraeg oedd eisoes wedi’u cyhoeddi gan gynnwys Breichiau Hir, Eädyth + Izzy Rabey, HMS Morris, Mellt, Adwaith ac  AhGeeBee. 

Gyda’r ŵyl yn cael ei chynnal ar benwythnos 21-23 Hydref, dyma fydd y tro cyntaf i’r digwyddiad gael ei gynnal yn llawn ers 2019 o ganlyniad i’r pandemig. 

Bydd yr ŵyl yn agor gyda noson arbennig yn y Tramshed ar nos Wener 21 Hydref – BC Camplight, Lime Garden, Panic Shack a Prima Queen fydd yn chwarae ar y noson honno. 

Stryd y Fuwch Goch (Womanby Street) a’r lleoliadau amrywiol yno fydd prif gyrchfan yr ŵyl fel arfer ond mae O’Neills, Tramshed a Jacobs yn leoliadau eraill amlwg eleni. 

Y tu hwnt i’r artistiaid Cymraeg, ymysg y prif enwau sydd wedi ei hychwanegu i’r leip-yp y tro hwn mae Sorry, Joe & The Shitboys, Bingy Fury, The Umlauts a Low Island. 

Mae rhain yn ychwanegol at yr artistiaid amlwg oedd ar y rhestr wreiddiol a gyhoeddwyd gan gynnwys Grove, Billy Nomates, Bodega a Sea Power.

Mae modd archebu tocynnau penwythnos neu ar gyfer y dyddiau unigol nawr ar wefan Sŵn.