Bydd Sywel Nyw yn rhyddhau ei ddeuddegfed sengl mewn 12 mis ddydd Gwener yma, 7 Ionawr.
‘Machlud’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf, ac olaf, o’r gyfres sydd wedi gweld Sywel Nyw yn rhyddhau un sengl newydd bob mis dros y flwyddyn ddiwethaf.
Sywel Nyw ydy enw prosiect unigol canwr a gitarydd Yr Eira, Lewys Wyn.
Ar ddechrau 2021 fe osododd her i’w hun i ryddhau sengl newydd pob mis dros y flwyddyn, gan gyd-weithio gydag artist arall cyfarwydd ar bob un.
Mae hyn wedi arwain at senglau newydd gyda Mark Roberts, Casi Wyn, Gwenno Morgan, Gwenllian Anthony o’r grŵp Adwaith, Glyn Rhys-James o’r grŵp Melt, Lauren Connelly, Steff Dafydd o’r grŵp Breichiau Hir, Endaf Emlyn, Iolo Selyf o’r grŵp FFUG a Dione Bennett.
Rhywbeth syml
Gwestai ychydig bach yn wahanol sydd gan Sywel Nyw ar gyfer y sengl olaf, sef ei alter ego Lewys Wyn, ac efallai bod hynny’n briodol wrth gloi prosiect mor uchelgeisiol.
“Y bwriad efo hon odd jyst sgwennu ‘wbath weddol commercial, poppy, ‘wbath weddol syml” meddai Lewys Wyn am y sengl ddiweddaraf.
“Ma hi’n dwyn dylanwad gan bobl fel Frank Ocean. Ma Machlud yn gallu cyfeirio at sawl peth hefyd. Machlud ar y prosiect ac ar y flwyddyn neu machlud ar gyfnod penodol.”
Wrth ryddhau’r sengl olaf o’r gyfres, mae Sywel Nyw hefyd wedi cyhoeddi y bydd albwm sy’n cynnwys y 12 trac yn cael ei ryddhau ar 21 Ionawr hefyd.