Dafydd Hedd yn rhyddhau ‘Atgyfodi’

Mae Dafydd Hedd wedi rhyddhau ei sengl newydd, ‘Atgyfodi’, ers dydd Gwener diwethaf, 14 Ionawr. 

Cyhoeddodd y cerddor ifanc o Fethesda ei fod wedi arwyddo gyda label Bryn Rock ar ddechrau’r flwyddyn, a’r sengl newydd ydy ei gynnyrch cyntaf ar y label hwnnw sy’n cael ei redeg gan y cerddor Jacob Elwy.

Cân “pop-dawns” ydy ‘Atgyfodi’ yn ôl Dafydd. Mae’r trac yn cludo’r gwrandawyr yn syth i fyd dawns gyda’i egni hypnotig a’i synau synth optimistaidd. 

‘Mae ‘Atgyfodi’ yn gerdd i ddathlu adferiad, twf a dyfalbarhad” eglura Dafydd Hedd.

“Mae’r trac yn dwyn dylanwad o’r 80au, ac yn gymysgedd o EDM a cherddoriaeth Indie i bortreadu pa mor wych ydi’r teimlad o oresgyn amseroedd caled.”  

Dywed cerddor ifanc, sydd eisoes wedi rhyddhau dau albwm yn annibynnol, ei  yn falch iawn i allu ymuno â label gan deimlo y bydd yn gwneud bywyd yn dipyn haws iddo o ran rhyddhau cerddoriaeth. 

‘Atgyfodi’ ydy’r unig gynnyrch sydd wedi’i gynllunio’n bendant hyd yma, mae’n gobeithio bydd llawer mwy i ddilyn gyda label Bryn Rock, er mai gigio cymaint â phosib ydy ei flaenoriaeth ar hyn o bryd. 

“Mae genna’i ganeuon wedi’u sgwennu ar y funud, dwi’n y Brifysgol a dwi’n trio fy ngorau i fynd i stiwdio i recordio a sgwennu pan ma’n bosib ond trio gigio a chael mwy o gigs ydy’r boi ar y funud.

Ag yntau’n gweithio’n hollol annibynnol cyn hyn, mae Dafydd wedi llwyddo i ryddhau dau albwm ac EP yn barod yn ystod ei yrfa fer. Rhyddhawyd yr albwm ‘Y Cyhuddiadau’ ganddo yn 2019, ac yna ‘Hunanladdiad Atlas’ yn 2020 cyn i’r EP ‘Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd’ lanio ym Mehefin 2021.