Wrth groesawu blwyddyn newydd mae’r cerddor ifanc o Fethesda, Dafydd Hedd, wedi cyhoeddi’r newyddion ei fod wedi arwyddo gyda label Bryn Rock.
Cyhoeddodd y newyddion ar ddydd Calan a heb oedi dim, ddiwrnod yn ddiweddarach bu iddo gyhoeddi y bydd yn rhyddhau ei sengl gyntaf ar y label ar 14 Ionawr dan yr enw ‘Atgyfodi’.
Cân “pop-dawns” ydy hon yn ôl Dafydd, ac mae’r cerddor ifanc yn falch iawn i allu ymuno â label gan deimlo y bydd yn gwneud bywyd yn dipyn haws iddo o ran rhyddhau cerddoriaeth – yn y gorffennol mae wedi mynd ati i ryddhau ei gynnyrch i gyd yn annibynnol.
“Mae’n grêt mod i wedi seinio [gyda’r label] achos o’n i efo CD Baby o’r blaen ac oedden nhw jyst yn drafferth…oedden nhw’n cymryd hanner royalties fi am wneud rwbath oedd ddim yn helpu fi o gwbl” eglurodd Dafydd.
Mae hefyd yn credu y bydd cefnogaeth label yn help mawr iddo o ran marchnata a hyrwyddo ei gerddoriaeth, yn enwedig o ran y cyfryngau a chynulleidfa Gymraeg.
Er mai ‘Atgyfodi’ ydy’r unig gynnyrch sydd wedi’i gynllunio’n bendant hyd yma, mae’n gobeithio bydd llawer mwy i ddilyn.
“Mae gena’i hefyd ganeuon wedi’u sgwennu ar y funud, dwi yn y Brifysgol a dwi’n trio fy ngorau i fynd i stiwdio i recordio a sgwennu pan ma’n bosib ond trio gigio a chael mwy o gigs ydy’r boi ar y funud.
“Dwi’n dal i drio sgwennu ond dwi’n trio peidio gor-wneud hi mewn ffordd…dwi’m yn mynd i ryddhau cân os nad ydw i’n hollol hapus efo fo, falla rŵan dwi’n dechrau bod bach mwy ffysi efo be dwi’n rhoi allan ‘llu.”
Agor Drysau
Ag yntau’n gweithio’n hollol annibynnol cyn hyn, mae Dafydd wedi llwyddo i ryddhau dau albwm ac EP yn barod yn ystod ei yrfa fer.
Rhyddhawyd yr albwm Y Cyhuddiadau ganddo yn 2019, ac yna Hunanladdiad Atlas yn 2020 cyn i’r EP Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd lanio ym Mehefin 2021.
Er hynny, mae’r cerddor yn gobeithio bydd cael cefnogaeth label fel Bryn Rock yn agor drysau newydd iddo.
“Dwi’n gobeithio hefyd bydd bod ar label yn golygu bydd pobl sy’n trefnu gigs yn cymryd fi’n fwy serious.
“Gobeithio fod o’n destament i’r gwaith dwi wedi gwneud dros y flwyddyn a rhaid mi gyfaddef ei fod o’n deimlad rili da.
“Dwi hefyd yn ffan mawr o Jacob Elwy [sy’n rhedeg y label] a Morgan Elwy a dwi’n rili hoffi cerddoriaeth nhw. Dwi’n methu gweld neb fyswn i’n hoffi gweithio efo’n fwy na nhw.”