Heno, ar raglen BBC Radio Cymru Huw Stephens, fe gyhoeddwyd dwy arall o restrau byr Gwobrau’r Selar eleni.
Datgelwyd rhestrau byr cyntaf y Gwobrau ar raglen Lisa Gwilym neithiwr, sef ‘Cân Orau’ a ‘Gwaith Celf Gorau’.
Nawr rydym hefyd yn gwybod pa bedwar enw sydd wedi dod i frig y bleidlais gyhoeddus yn y categorïau ‘Artist Unigol Gorau 2021’ a ‘Band neu Artist Newydd Gorau 2021’.
Heb oedi ymhellach felly, dyma nhw:
Artist Unigol Gorau 2021
Sywel Nyw
Mared
Thallo
Elis Derby
Band neu Artist Newydd 2021
Ciwb
Morgan Elwy
N’famady Kouyaté
Kathod
Bydd mwy o restrau byr yn cael eu datgelu ar Radio Cymru wythnos nesaf, a bydd enillwyr y Gwobrau eleni’n cael ru cyhoeddi ar raglenni Lisa a Huw yn ystod wythnos 14-18 Chwefror.