Datgelu rhestrau byr olaf Gwobrau’r Selar eleni

Cafodd rhestrau byr olaf Gwobrau’r Selar eleni eu datgelu’n fyw ar BBC Radio Cymru heno, gan olygu bod y cyfan yn gyhoeddus bellach mewn pryd i gyhoeddi’r enillwyr wythnos nesaf.

Ifan Siôn Davies oedd yn cadw sedd Huw Stephens yn gynnes ar gyfer y rhaglen nos Iau wythnosol, felly ef gafodd y fraint o gyhoeddi’r rhestrau byr olaf ar gyfer y categorïau ‘Seren y Sin 2021’, ‘Record Fer Orau 2021’ sy’n cael ei noddi gan Ddydd Miwsig Cymru, a ‘Band Gorau 2021’.

Dyma’r rhestrau byr diweddaraf felly:

Seren y Sin 2021

Marged Gwenllian

Elan Evans

Carwyn Ellis

Endaf

 

Record Fer Orau 2021 (noddir gan Dydd Miwsig Cymru)

Mymryn – Hyll

Stoppen Met Rocken – Kim Hon

Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Gymreig – Los Blancos

Yr Ifanc Sy’n Gwneud Dim Byd – Dafydd Hedd

 

Band Gorau 2021

Bwncath

Band Pres Llareggub

Papur Wal

Breichiau Hir

 

Yn ôl yr arfer, y cyhoedd sydd wedi dewis y rhestrau byr ac enillwyr ar gyfer 9 o’r categorïau eleni, gyda dwy wobr arall sef y wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ a ‘Gwobr 2021’ yn cael eu dyfarnu gan dîm Y Selar.

Roedd rhestrau byr y 6 categori arall oedd yn y bleidlais gyhoeddus eisoes wedi’u cyhoeddi ar raglenni Lisa Gwilym neithiwr ac wythnos diwerthaf, ac ar raglen Huw Stephens wythnos diwethaf.

Bydd enwau’r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn rhaglenni arbennig gan Lisa a Huw wythnos diwethaf ar nosweithiau 16 a 17 Chwefror. Bydd enillwyr y gwobrau wobr ‘Cyfraniad Arbennig’ a ‘Gwobr 2021’ yn cael eu cyhoeddi ar Radio Cymru wythnos nesaf hefyd.

Cadwch olwg hefyd am gynnwys aftershow arbennig Gwobrau’r Selar fydd yn ymddangos ar gyfryngau’r Selar ar ôl rhaglen Huw nos Iau nesaf.

Dyma’r rhestrau byr ar gyfer y categorïau sydd eisoes wedi’u cyhoeddi…

 

Cân Orau 2021 (Noddir gan PRS for Music)

10/10 – Sywel Nyw a Lauren Connelly

Theatr – Sŵnami

Llyn Llawenydd – Papur Wal

Niwl – Dafydd Hedd / Endaf / Mike RP

 

Gwaith Celf Gorau 2021 (Noddir gan Y Lolfa)

Hir Oes i’r Cof – Breichiau Hir

Cashews Blasus – Y Cledrau

Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig – Los Blancos

Amser Mynd Adra – Papur Wal

 

Artist Unigol Gorau 2021

Sywel Nyw

Mared

Thallo

Elis Derby

Band neu Artist Newydd 2021

Ciwb

Morgan Elwy

N’famady Kouyaté

Kathod

 

Fideo Cerddoriaeth Gorau 2021 (noddir gan S4C)

Arthur – Papur Wal

Hei Be Sy – Y Cledrau

Theatr – Sŵnami

Llyn Llawenydd – Papur Wal

 

Record Hir Orau 2021

Cashews Blasus – Y Cledrau

Amser Mynd Adra – Papur Wal

Hir Oes i’r Cof – Breichiau Hir

’Da ni ar yr un Lôn – Dylan Morris